O ddysgu Cymraeg i ennill Coron mewn pedair blynedd
Doedd Jo Heyde ddim yn siarad gair o Gymraeg tan ddiwedd 2018 a dim ond tua diwedd 2020 y dechreuodd hi ddarllen barddoniaeth mewn unrhyw iaith.
Ond y cerddor - sy'n rhannu ei hamser rhwng Cymru a Llundain - oedd enillydd Coron Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan dros y penwythnos.
Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl dotio at sain yr iaith wrth deithio Cymru gyda'i gŵr mewn campervan yn 2018.
Ar wahân i ddau gwrs undydd, ni fu mewn unrhyw ddosbarthiadau, gan ddechrau dysgu Cymraeg trwy wrando ar y radio a darllen llyfrau Cymraeg.
Fe gyrhaeddodd restr fer gwobr Dysgwr Y Flwyddyn Eisteddfod AmGen 2021.
Fe gafodd flas ar ddysgu cynganeddu yn y lle cyntaf ar ôl darganfod y podlediad Clera yn ystod y cyfnod clo, gan fynd ymlaen i gymryd rhan yn sesiynau barddoni rhithiol Ysgol Farddol Caerfyrddin.
Lai na dwy flynedd yn ddiweddarach, hi ddaeth i'r brig yn yr eisteddfod yn Llanbed mewn cystadleuaeth oedd wedi denu 11 o feirdd eraill.
Bu Jo yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.