Cyhoeddi rhestr fer gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr gwobr flynyddol Dysgwr y Flwyddyn wedi cyhoeddi pwy yw'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth eleni.
Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eu bod wedi derbyn 28 o geisiadau eleni, a bod unigolion o Gymru a thu hwnt wedi'u henwebu.
Mae dau o'r pedwar sydd wedi dod i'r brig yn dod o Sir Gaerfyrddin - Rob Lisle a David Thomas.
Y ddau ymgeisydd eraill yw Jo Heyde o Lundain a Gosia Rutecka, Pwyles sy'n byw yn Y Rhondda.
Bydd enw'r ymgeisydd buddugol yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod AmGen - gŵyl rithwir rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst, sy'n llenwi'r bwlch eto eleni wedi i'r pandemig olygu bod rhaid gohirio Eisteddfod Genedlaethol Tregaron tan 2022.
Y beirniaid eleni yw Hannah Thomas o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Shirley Williams, Is-gadeirydd Panel Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Roedd safon y gystadleuaeth eleni eto yn uchel dros ben, gyda bron i ddeg ar hugain o ddysgwyr brwdfrydig yn cymryd rhan," meddai Shirley Williams.
"Cawsom gyfle i fwynhau sgwrs gyda phob un ohonynt, gyda phedwar, yn y pen draw, yn cyrraedd y rownd derfynol.
"Mae'r pedwar yn gwbl eithriadol ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed mwy o'u hanes yn ystod yr Eisteddfod AmGen."
Ymrwymiad 'ysgytwol' at y Gymraeg
Dim ond bedair blynedd yn ôl y clywodd Jo Heyde o Lundain y Gymraeg am y tro cyntaf.
Ymwelodd â Chymru a phenderfynu dysgu'r iaith yn Hydref 2018, gan ddechrau gwrando ar y radio a darllen llyfrau Cymraeg.
Ar wahân i ddau gwrs undydd, 'dyw Jo, sy'n gerddor llwyddiannus, heb fod mewn unrhyw ddosbarthiadau Cymraeg.
Erbyn hyn, mae'n rhan flaenllaw o fywyd Cymraeg Llundain. Mae hi'n weithgar gyda Merched y Wawr ac yn aelod brwd o'r Clwb Darllen a'r Cylch Siarad yng Nghanolfan Cymry Llundain.
Mae hi hefyd wedi dysgu cynganeddu ac wedi cyfansoddi nifer o gerddi caeth.
Yn ôl datganiad y trefnwyr mae ei "hymrwymiad at y Gymraeg yn ysgytwol a'i brwdfrydedd dros yr iaith yn ysbrydoliaeth i bawb o'i chwmpas".
'Cyngor ar bensaernïaeth yn y Gymraeg'
Yn wreiddiol o Abertawe, fe fagwyd y pensaer Rob Lisle ar aelwyd ddi-Gymraeg ac fe gafodd eu addysgu yn Saesneg cyn symud i Lundain.
Ar ôl symud i ardal Caerfyrddin, penderfynodd, gyda'i wraig, Siân i anfon eu plant i ysgol Gymraeg.
Dysgodd yr iaith er mwyn cefnogi'i blant, gan ymuno â chwrs Cymraeg a dod yn rhan o nifer o grwpiau lleol.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae'n manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio'r iaith gyda phawb yn ddyddiol. Mae'r enwebiad yn datgan bod ganddo "ddiddordeb mawr yn yr iaith, ei hanes ac yn niwylliant Cymru".
Mae hefyd yn "weithgar iawn yn ei gymuned ac yn cynnig cyngor ar bensaernïaeth yn y Gymraeg. Mae ymroddiad Rob yn ysbrydoliaeth i'w diwtoriaid ac i ddysgwyr eraill."
'Rhan flaenllaw o gymuned Gymraeg ei hardal'
Yn wreiddiol o Wlad Pwyl mae Gosia Rutecka yn byw yng Nghwm Rhondda ac yn fam i bump o blant.
Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, fe newidiodd cyfrwng addysg ei dau blentyn ieuengaf trwy eu symud o ysgol Saesneg i ysgol Gymraeg.
Dywedir bod Gosia "heb adael i'r cyfnod clo roi stop ar ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i'r Gymraeg".
Mae hi wedi parhau i fynychu dosbarthiadau a ffurfio grwpiau cefnogi i ddysgwyr eraill, gan drefnu siaradwyr i ddod atyn nhw i drafod hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.
Mae hi bellach "yn rhan flaenllaw o'r gymuned Gymraeg yn ei hardal", ac ar hyn o bryd mae'n astudio am radd PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe "gan ysbrydoli pawb o'i chwmpas gyda'i brwdfrydedd dros y Gymraeg".
Un o 'genhedlaeth goll' y Gymraeg
Mae David Thomas, sy'n hanu o Gaerdydd, yn disgrifio'i hun fel un o'r "genhedlaeth goll" na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg. O'r herwydd roedd yn teimlo bod rhywbeth ar goll o'i fywyd.
Gadawodd Cymru i fynd i'r brifysgol gan fyw yn Lloegr am flynyddoedd, ond roedd wastad yn awyddus i symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg.
Gyda'i ŵr, Anthony, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dychwelodd y ddau gan brynu tyddyn bach yn ardal Caerfyrddin.
Yn 2018, fe sefydlodd y ddau ddistyllfa ar eu fferm, ac erbyn hyn, mae brand Jin Talog yn hynod boblogaidd.
Dywed David fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd ac mae'n ei defnyddio bob dydd gyda'r iaith yn rhan ganolog o bopeth yn y busnes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021