Olion Capel Celyn yn dod i'r golwg wedi'r sychder
Wedi'r sychder mae hi'n bosib bellach gweld olion pentref Capel Celyn ger Y Bala.
Cafodd y pentref ei foddi yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer dinas Lerpwl.
Yn ogystal â'r ffermydd, boddwyd 800 erw o dir y cwm, yr ysgol, llythyrdy, capel a'r fynwent.
Dyma'r tro cyntaf i gymaint o'r pentref ddod i'r golwg ac mae Richard Lloyd Jones wedi dal y foment ar gamera.