Lluniau: Cofio Capel Celyn // Pictures: A village before the drowning
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn nodi 50 mlynedd ers i bentref gwledig Capel Celyn, ger y Bala, gael ei foddi er mwyn darparu dinas Lerpwl gyda dŵr. Cafodd teuluoedd eu gorfodi i adael eu cartrefi, a bu'n rhaid ffarwelio gyda'r ysgol, y capel a'r ffermydd. Dyma gasgliad o luniau gafodd eu tynnu gan Geoff Charles, trwy garedigrwydd y Llyfrgell Genedlaethol, yn dangos y ffordd o fyw cyn y boddi.
It's 50 years since a small village in rural north Wales was drowned in order to supply Liverpool with drinking water, forcing a tight-knit community to give up their land and homes. Here is a selection of pictures, taken by Geoff Charles with the generosity of the National Library of Wales, depicting Capel Celyn and its people before it was flooded.


Cwm Tryweryn ar 1 Ionawr 1956. // A picture of the Tryweryn Valley before the drowning, taken on New Year's Day 1956.

Arwydd yng ngorsaf drên Capel Celyn cyn iddi orfod cau. // A sign at the Capel Celyn train station before it was forced to close.

Rali wedi ei threfnu gan Blaid Cymru yn y Bala ym mis Medi 1956. // A Plaid Cymru rally was held in Bala to protest against the plans to drown the valley in September 1956.

Gorymdeithio yn Lerpwl ym mis Tachwedd 1956 mewn ymgais i atal Cyngor y Ddinas rhag boddi'u pentref. // A protest march in Liverpool by the people of Tryweryn, which was led by Plaid Cymru President, Gwynfor Evans.

Merch ifanc yng nghanol y protestio yn Lerpwl ar 21 Tachwedd 1956. // A young protester at the rally in Liverpool in November 1956.

Teulu yn gadael Capel Celyn am y tro olaf yn 1956. // A family leaving Capel Celyn for the last time in 1956.

Gwartheg yn cael eu gwerthu am y tro olaf ar Fferm Gwerngenau, 10 Hydref 1957. // Cattle being sold at the last sale at Gwerngenau Farm.

Arwydd uniaith Saesneg yn atgoffa trigolion Capel Celyn am eu tranc. // An English-only signpost reminding the residents of the fate of their village.

Un o'r gwersi olaf yn ysgol Capel Celyn. Cafodd y llun ei dynnu ym mis Hydref 1962. // One of the final lessons in Capel Celyn School in October 1962.

Gwasanaeth datgorffori capel y pentref - y digwyddiad olaf i ddigwydd yno cyn y boddi. // A large congregation attended the last ever service held at Capel Celyn's chapel on 28 September 1963. The last wedding had taken place in the chapel a fortnight before.

Bachgen bach o'r pentref, Deiniol Prysor Jones, yn chwarae yn adfeilion y capel. // Deiniol Prysor Jones playing inside the ruins of the chapel in November 1963.

Protestio yn ystod agoriad swyddogol yr argae ar 21 Hydref 1965. // Protests on the day of the official opening of the dam on 21 October 1965.

Y gronfa ddŵr yn Llyn Celyn heddiw. // The reservoir at Llyn Celyn as it is today.