Groeg 0-1 Cymru: Gwyliwch gôl allweddol Carrie Jones

Mae gobeithion Cymru o sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn parhau yn eu dwylo eu hunain wedi iddyn nhw drechu Groeg oddi cartref nos Wener.

Mae'r canlyniad yn cadw Cymru yn yr ail safle yng Ngrŵp I, wyth pwynt tu ôl i Ffrainc, ond yn allweddol, ddau bwynt ar y blaen i Slofenia - wnaeth drechu Kazakhstan o 2-0 ddydd Gwener.

Fe fydd Cymru nawr yn wynebu Slofenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth i benderfynu pa wlad fydd yn selio eu lle yn y gemau ail gyfle.

Gwyliwch unig gôl y gêm, wrth i Carrie Jones fanteisio ar ychydig o flerwch yn y cwrt cosbi i sgorio ei gôl gyntaf i'r tîm cenedlaethol.