Streic bargyfreithwyr: '£45 am saith awr o waith'

Mae bargyfreithwyr sy'n gweithredu'n ddiwydiannol am gyfnod penagored ers dechrau'r wythnos yn gobeithio y bydd trafodaethau ynghylch eu tâl yn ailddechrau os bydd y Prif Weinidog newydd, Liz Truss yn penodi Ysgrifennydd Cyfiawnder newydd.

Mae'r corff sy'n cynrychioli bargyfreithwyr yn pwyso am gynnydd o 25% yn y ffïoedd cymorth cyfreithiol y mae bargyfreithwyr yn eu derbyn i gynrychioli diffynyddion fyddai fel arall ddim yn gallu fforddi talu i gael eu hamddiffyn yn y llysoedd.

15% y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ond mae hwnnw wedi cael ei wrthod.

Roedd Cat Jones ymhlith y picedwyr ddydd Mawrth ger Llys y Goron Caerdydd.

Dim ond ym mis Ionawr y dechreuodd hi weithio fel bargyfreithwraig ond mae hi nawr yn dweud bod hi'n amhosib parhau.