Bargyfreithwyr yn dechrau streic benagored yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae bargyfreithwyr Cymru a Lloegr yn dechrau streic am gyfnod penagored ddydd Llun, fydd yn arwain at oedi achosion llys ar draws y wlad.
Bydd streic Cymdeithas y Bar Troseddol (CBA) yn gwaethygu'r oedi sydd eisoes yn wynebu'r system gyfiawnder, ble mae degau o filoedd o achosion yn disgwyl i gael eu clywed.
Mae'r CBA eisiau 25% o gynnydd yn y tâl maen nhw'n ei dderbyn am achosion cymorth cyfreithiol - sef cynrychioli diffynyddion fyddai fel arall ddim yn gallu fforddio'r ffioedd.
Mae Gweinidog Cyfiawnder Llywodraeth y DU, Sarah Dines, wedi dweud fod y streic yn "anghyfrifol".
Ond dywedodd cadeirydd y CBA, Kirsty Brimelow, fod angen cynnal y streic er mwyn "atal y system cyfiawnder troseddol rhag dymchwel yn llwyr".
Cynnig 15% o gynnydd
Er mai dydd Llun mae'r streic benagored yn dechrau, mae aelodau'r CBA wedi cynnal streiciau byrrach ers diwedd Mehefin.
Bydd bargyfreithwyr hefyd yn cynnal ralïau tu allan i lysoedd ar draws y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig 15% o gynnydd yn nhâl bargyfreithwyr am achosion cymorth cyfreithiol o ddiwedd Medi.
Ond mae'r CBA wedi gwrthod y cynnig yma, gan ddweud fod hynny'n rhy hwyr ac na fyddai cynnydd ar gyfer achosion sydd eisoes wedi dechrau.
Dywedodd y CBA fod y system cyfiawnder troseddol wedi cael ei thanariannu ers blynyddoedd, a bod rhai bargyfreithwyr newydd yn ennill llai na'r isafswm cyflog am eu bod yn gweithio cymaint o oriau.
Mae'r gymdeithas hefyd yn dweud fod dros chwarter bargyfreithwyr iau wedi gadael y proffesiwn dros y pum mlynedd ddiwethaf.
"Dyw hon ddim yn system gyfiawnder o safon fyd-eang, fel mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn honni," meddai Ms Brimelow.
"Dyw hi ddim hyd yn oed yn system gyfiawnder sy'n gweithio."
'Oedi a gofid pellach i ddioddefwyr'
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud y byddai rhoi'r 15% o gynnydd i achosion sydd eisoes wedi dechrau yn "costio swm anghymesur o arian trethdalwyr".
Dywed gweinidogion y byddai bargyfreithiwr arferol yn ennill £7,000 yn fwy bob blwyddyn dan eu cynnig nhw.
Maen nhw hefyd yn dweud mai £79,800 oedd canolrif cyflog bargyfreithwyr troseddol yn 2019-20, er yn cydnabod fod bargyfreithwyr newydd yn ennill llawer iawn llai.
Ychwanegodd Ms Dines fod y streic yn "benderfyniad anghyfrifol fydd ond yn gweld mwy o ddioddefwyr yn wynebu oedi a gofid pellach".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020