Torf yng Nghaerdydd i glywed proclamasiwn Charles III
Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull yng Nghaerdydd a lleoliadau yng Nghymru ar gyfer proclamasiwn Brenin Charles III.
Cafodd y cyhoeddi swyddogol ei fod yn Frenin ei ddarllen yng Nghymru am 12:00, gyda chyhoeddiadau tebyg yn ystod y prynhawn mewn mannau yn cynnwys Castell Caernarfon a Neuadd y Dref Wrecsam.
Daeth nifer o bobl i Gastell Caerdydd ddydd Sul i fod yn dyst i'r digwyddiad hanesyddol.