Torfeydd yng Nghymru i broclamasiwn Brenin Charles III
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull yng Nghaerdydd a lleoliadau yng Nghymru ar gyfer proclamasiwn Brenin Charles III.
Roedd rhai wedi dechrau ciwio tu allan i gastell y brifddinas tua 07:00 y bore, gan mai ond hyd at 2,000 o bobl oedd yn cael ymuno â'r gwesteion swyddogol yn y seremoni sy'n ei gyhoeddi'n Frenin yn swyddogol yng Nghymru.
Cafodd y proclamasiwn ei ddarllen am 12:00, gyda chyhoeddiadau tebyg yn ystod y prynhawn mewn mannau yn cynnwys Castell Caernarfon a Neuadd y Dref Wrecsam.
Yng Nghaerdydd fe orymdeithiodd aelodau Gwarchodlu'r Cyhoeddi - milwyr 3ydd Bataliwn y Gwarchodlu Cymreig - o Neuadd y Ddinas i'r castell cyn y proclamasiwn.
Yn ôl Cyngor Caerdydd roedd tua 700 o bobl ar y stryd tu allan i'r castell yn ystod y digwyddiad.
Daeth hynny yn dilyn y proclamasiwn swyddogol ym Mhalas St James yn Llundain ddydd Sadwrn, yn dilyn seremoni Cyngor yr Esgyniad i gadarnhau Charles III yn Frenin.
Fe alwodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar Herodr Cymru - Thomas Lloyd OBE - i ddarllen y Cyhoeddiad yn Saesneg am hanner dydd. Arglwydd Is-Gapten De Morgannwg - Mrs Morfudd Meredith - wnaeth ei ddarllen yn Gymraeg.
Cafodd gynnau eu tanio 21 o weithiau yn dilyn y darlleniadau, a bydd God Save the King a Hen Wlad Fy Nhadau yn cael eu canu wedi hynny.
Ymhlith y rheiny yn y castell i dalu teyrnged i'r Frenhines oedd tri aelod o Fataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Cymreig.
"Y Frenhines oedd ein cyrnol a phennaeth ein catrawd," meddai Paul Pesticcio, 66.
"Rydyn ni i gyd wedi ei chyfarfod. Mae'n golygu llawer i ni, mae'n tipyn o barch i ymweld."
Dywedodd David Vaatstra, 62, ei fod wedi ei chyfarfod yn 1996 ar ôl dychwelyd o Bosnia.
"Roedd hi wastad yn wybodus iawn, ac wastad yn gwneud pwynt o gwrdd a'r gwragedd hefyd," meddai.
Ychwanegodd Steven Gee-wing, 66: "Mae'n anodd derbyn fod gennym ni frenin, dim ond oherwydd ei bod hi wedi'n gadael. Mae wastad wedi bod yna.
"Galar yw hyn. Rydyn ni wedi colli rhywun fyddwn ni ddim yn cael eto yn ein bywydau."
Roedd Gary King a'i wraig, Cheryl o Gaerfyrddin wedi gadael adref am 06:00 y bore gyda'u plant Astrid, 9, Vada, 7, ac Emmett, 4.
"Roedden ni'n meddwl y byddai'n brofiad addysgiadol gwych iddyn nhw, rhywbeth bydden nhw wastad yn ei gofio," meddai.
"Mae hyn yn rhywbeth sydd ond yn digwydd unwaith mewn bywyd."
Dywedodd Claire Biffin ei bod wedi teithio o Benarlâg yn Sir Y Fflint "i ddangos parch a bod gyda pawb mewn digwyddiad mor fawr".
Roedd y Frenhines, meddai "yn fenyw anhygoel ac roedd y wlad i gyd yn caru hi".
Aeth Suzanne Villiers, yn wreiddiol o Gaerdydd ond yn byw erbyn hyn yn Cheltenham, i'r castell gyda'i thad, Bob Villiers.
"Mae'n foment hanesyddol ac yn atgof i fi a fy nhad i weld yn 60 ac 85 oed," meddai.
"Mae'r Frenhines bob amser wedi bod yn bresenoldeb cyson i bawb ac roedd hi byth yn rhoi troed o'i le."
Gwerthfawrogiad o gyfraniad y Frenhines wnaeth ysgogi Sioned Bowen o Gaerffili i fod yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y proclamasiwn.
Ychwanegodd ei bod yn "teimlo bod fi angen dangos parch" ac fod y Frenhines "mor dedicated i'w gwlad hi".
"Des i achos o'n i wedi clywed bod y seremoni am gael ei gwneud yn y Gymraeg, rhan ohono fe, ac mae'n diddorol cael gweld seremoni sydd heb cael ei weld ers blynyddoedd maith," meddai Eleanor Davies o Gaerdydd.
Dywedodd Rhys Lewis o Abertawe: "Fi'n credu bod e'n bwysig dod yma heddi', mae'n ddigwyddiad unwaith mewn bywyd. Nes i ddim cwrdd â'r Frenhines, ond dwi'n absorbing the atmosphere gyda phopeth."
"Mae'n gyfle i fod yn dyst i hanes, rhan o hanes Prydain a Chymru, ac roedd yn gyfle doedden ni ddim am ei fethu," meddai Carol Greggory, 61, o Gaerdydd, sy'n gwylio'r achlysur gyda'i theulu.
"Bydd y genhedlaeth ieuengach yn gweld brenhinoedd yn y dyfodol hefyd, felly mae'n bwysig iddyn nhw weld hanes. Mae'n rhan o ddysgu plant am fywyd, marwolaeth ac angladdau."
Daeth Sonia Pawan â'i ŵyr naw oed, Samuel i'r castell ar gyfer y proclamasiwn.
"Roeddwn i eisiau i Samuel gael y profiad o weld hanes, mae'n rhan o'n hanes. Felly nes i fynd i'w gasglu o Aberdâr. Roedden ni'n meddwl ei fod yn bwysig. Rydw i'n falch iawn fod yr holl bobl yma i gefnogi'r Brenin Charles."
Ychwanegodd Samuel: "Dwi'n hapus i fod yma, achos dwi'n gallu gweld pobl enwog yn dod. Roedd y Frenhines yn neis i ni i gyd, roedd hi'n Frenhines dda."
Nid oedd pawb y tu allan i Gastell Caerdydd yno i fynegi cefnogaeth i'r frenhiniaeth, fodd bynnag.
Yn eu plith roedd dau brotestiwr yn dal arwyddion, gydag un yn datgan: "Nid ein brenin ni!"
Roedd hyd at 300 o bobl yng Nghastell Caernarfon ar gyfer y cyhoeddiad ffurfiol yng Ngwynedd.
Roedd pawb â rhan swyddogol yn y proclamasiwn yn yn sefyll ar yr union fan ble y cafodd y Brenin Charles ei arwisgo gan ei fam yn 1969.
"Doedd dim disgwyl, wrth gwrs, mor gymaint o bobol ag yn Llundain nag yng Nghaerdydd," meddai Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yn y sir, Edmund Bailey.
"Ond yr hen adeilad eiconig 'ma - o'n i'n meddwl bod nunlle gwell i'w gael o."
O gofio'r achlysuron y cwrddodd â'r Frenhines dros y blynyddoedd dywedodd Mr Bailey mai'r hyn a'i synnodd y tro cyntaf oedd "faint mor fach oedd hi mewn stature, fel petae, ond faint mor fawr [o ran] cymeriad a carisma".
Yn y gogledd ddwyrain, cafodd y proclamasiwn ei ddarllen tu allan i Neuadd y Sir Yr Wyddgrug, cyn i gynrychiolwyr adael i wneud cyhoeddiadau tebyg yn siroedd Wrecsam a Dinbych.
Ymhlith y dorf roedd dwy chwaer o'r Wyddgrug - Angela Hughes, 66, a Christine Searle, 76, a ddywedodd yn ei dagrau fod marwolaeth Frenhines "wedi effeithio arna'i yn fawr".
Roedd araith gyntaf Charles III fel Brenin, meddai, wedi gwneud iddi "deimlo'n eithaf hyderus ei fod o am fod yn frenin ardderchog rŵan", ac y byddai wedi teithio i Balas Windsor neu Balas Buckingham pe bai'n byw'n fwy agos.
Dywedodd Angela bod y proclamasiwn yn "rhywbeth nad ydy fy nghenhedlaeth i wedi ei weld o'r blaen", gan ychwanegu: "Mae'n rhywbeth, gobeithio, na wela'i eto."
Yn y dorf hefyd oedd Cyng Haydn Jones, maer Yr Wyddgrug, a ddywedodd y bydd yn "cofio popeth" mae'r frenhines "wedi ei wneud dros y wlad."
"Mae wedi bod yn bleserus mewn un ffordd ac yn drist mewn ffordd arall," meddai am y seremoni.
"'Dan ni wedi colli'r Frenhines - brenhines sydd wedi bod yn frenhines fendigedig ers i mi gael fy ngeni, bron.
"Mae hi wedi gwneud lot i Gymru a dwi'n meddwl bydd William rŵan, [pan fydd] yn dod i fewn fel tywysog y wlad, yn gwneud job go dda."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022