Cam-drin: 'Mae'r ystadegau yn erchyll'

"Dwi wedi dod yn rili bell" ydy geiriau bodlon Chelsea Jones, chwe blynedd union ers iddi fynd i swyddfa heddlu i ddweud ei bod hi wedi ei cham-drin yn rhywiol pan yn blentyn.

Fe gafodd y ddynes 26 oed ei cham-drin gan gyfaill i'r teulu am bum mlynedd nes oedd hi'n 13 oed. Wrth siarad â BBC Cymru, mae hi wedi ei ildio ei hawl fel dioddefwr trosedd rhyw i aros yn ddienw.

Wedi iddi fynd at yr heddlu yn 21 oed, fe gafodd y dyn wnaeth gam-drin Chelsea ei garcharu ac yn fuan wedyn fe aeth hi i chwilio am gymorth gan elusen RASASC (Rape and Sexual Abuse Support Centre) Gogledd Cymru.

Mae'r mudiad wedi gweld naid sylweddol yn y niferoedd o bobl sy'n mynd atyn nhw dros y degawd diwethaf, o 178 o bobl yn 2011-12 i 800 yn 2021-22.

Ond maen nhw'n credu llawer bod rhagor o ddioddefwyr sydd ddim yn dod i chwilio am gymorth.

Dywedodd Siân Edwards yn gwnselydd gyda RASASC ac yn dweud bod cymryd y cam cyntaf yn beth "enfawr" i bobl sy'n goroesi trosedd rhyw.