'Dwi wedi dod yn rili pell ar ôl i fi gael fy ngham-drin'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd Chelsea Jones ei cham-drin gan gyfaill i'r teulu am bum mlynedd

"Dwi wedi dod yn rili bell" ydy geiriau bodlon Chelsea Jones, chwe blynedd union ers iddi fynd i swyddfa heddlu i ddweud ei bod hi wedi ei cham-drin yn rhywiol pan yn blentyn.

Fe gafodd y ddynes 26 oed ei cham-drin gan gyfaill i'r teulu am bum mlynedd nes oedd hi'n 13 oed.

Wrth siarad â BBC Cymru, mae hi wedi ei ildio ei hawl fel dioddefwr trosedd rhyw i aros yn ddienw.

"'Nath o affectio relationships, trust, bod o gwmpas pobl ddieithr. Confidence fi, pan o'n i'n ysgol do'n i'm yn gallu concentrateio.

"Do'n i'm yn cysgu, bwyta. Oedd o 'di gwneud fi i gael depression yn rili ifanc."

Wedi iddi fynd at yr heddlu yn 21 oed, fe gafodd y dyn wnaeth gam-drin Chelsea ei garcharu ac yn fuan wedyn fe aeth hi i chwilio am gymorth gan elusen Canolfan Gefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru.

Mae'r mudiad wedi gweld naid sylweddol yn y niferoedd o bobl sy'n mynd atyn nhw dros y degawd diwethaf, o 178 o bobl yn 2011-12 i 800 yn 2021-22.

Ond maen nhw'n credu llawer bod rhagor o ddioddefwyr sydd ddim yn dod i chwilio am gymorth.

Disgrifiad o’r llun,

Fflur Emlyn: 'Dan ni isio i bobl wybod bod ni yma i helpu nhw a bod help ar gael'

Yn ôl Dirprwy Brif Weithredwr RASASC Gogledd Cymru, Fflur Emlyn, mae 'na fwlch rhwng nifer y troseddau sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu a'r nifer o bobl sy'n cysylltu am help.

"Dydy'n ffigyrau ni ddim yn cymharu'n iawn efo ffigyrau'r heddlu yng ngogledd Cymru, felly 'den ni isio gwneud yn siŵr bod pawb yng ngogledd Cymru yn gwybod am RASASC.

"Be' 'dan ni wedi gweld, er enghraifft, ydy bod ffigyrau de Gwynedd ni ddim yn matchio efo be' dylsan ni fod yn cael o ran ffigyrau heddlu neu asiantaethau eraill.

"'Dan ni'n gwybod mewn ardaloedd gwledig bod ffigyrau cam-drin rhywiol mewn plentyndod yn uwch, ond mae ffigyrau ni yn de Gwynedd yn isel.

"Felly 'dan ni isio i bobl wybod bod ni yma i helpu nhw a bod help ar gael."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gan ogledd Cymru un o'r cyfraddau uchaf yng Nghymru a Lloegr o droseddau rhyw yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 - gyda 3.7 trosedd yn cael ei chofnodi am bob 1,000 o'r boblogaeth.

Llundain oedd â'r gyfradd uchaf gyda 9.9 trosedd am bob 1,000 o'r boblogaeth.

Roedd gan ardaloedd heddluoedd De Cymru a Dyfed Powys gyfradd o 2.7 trosedd rhyw am bob 1,000 o'r boblogaeth. 2.6 oedd y gyfradd yn ardal Heddlu Gwent.

Mae gan RASASC restrau aros ar hyn o bryd o hyd at dair wythnos i oedolion a hyd at dri mis i blant a phobl ifanc.

Ond oherwydd eu bod nhw'n credu bod rhagor o bobl angen cymorth mae nhw'n recriwtio rhagor o staff ac yn dechrau ymgyrch gyhoeddusrwydd.

'O'n i'n rock bottom'

Pan aeth Chelsea Jones at RASASC gyntaf mae hi'n dweud nad oedd hi'n barod i siarad.

"Do'n i ddim yn gallu prosesu dim byd ar y point yna, so 'nath o orffen ar ôl chwe sesiwn.

"Ddois i nôl couple o years wedyn a ges i therapi am 20 sesiwn ac o'n i wedi dysgu lot o techniques i helpu fi copeio.

"Dwi wedi dod yn rili bell. Doedd genna fi ddim confidence, o'n i ddim yn gallu siarad efo pobl. O'n i rock bottom a do'n i ddim yn licio mynd allan a petha'.

"Ond rŵan dwi wedi dod yn bell trwy help RASASC a counsellor fi a dwi'n teimlo dwi 'di cael y confidence 'na yn ôl.

"Dwi'n teimlo 'fatha person gwell heddiw.

'Dwyt ti ddim ar ben dy hun'

Mae Siân Edwards yn gwnselydd gyda RASASC ac yn dweud bod cymryd y cam cyntaf yn beth "enfawr" i bobl sy'n goroesi trosedd rhyw.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae cymryd y cam cyntaf yn enfawr,' medd Siân Edwards sy'n gwnselydd gyda RASASC

"Mae pawb yn unigryw. 'Dan ni yna yn gwrando, yn coelio, yn validateio, yn bod yna i'r person.

"Mae trais rhywiol yn tynnu i ffwrdd y sense o deimlo'n saff a 'dan ni'n gweithio'n galed i wneud i bobl deimlo'n saff eto.

"Mae'r bobl sy'n dod atom ni wedi bod yn ddistaw am mor hir, mae cael dod yma ac eistedd efo rhywun a cael deud yn uchel beth sydd wedi digwydd iddyn nhw yn rhywbeth mor bwerus."

Cyngor Chelsea Jones i unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd rhyw ydy i ddweud wrth rhywun mor fuan â sy'n bosib.

"Dydy hi byth rhy hwyr. Mae 'na ddigon o support yna, ti'n gallu 'neud o. Ti byth ar ben dy hun. O'r munud ti'n riportio fo neu'n gofyn am help, dwyt ti ddim ar ben dy hun."