Cynyddu treth cyngor ail gartrefi i 300% yn 'ormod'

Ddydd Mawrth bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn penderfynu a ddylai lansio ymgynghoriad ar godi'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i hyd at 300%.

O fis Ebrill 2023 bydd gan awdurdodau yr hawl i dreblu'r premiwm sy'n cael ei godi ar y rheiny sy'n berchen ar fwy nag un eiddo.

Mae'r datblygiad wedi ei awdurdodi gan Lywodraeth Cymru, gyda gweinidogion yn gobeithio ei wneud yn haws i bobl allu prynu cartrefi yn yr ardaloedd ble cawsant eu magu.

Ond yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Ian Wyn Jones, arwerthwr tai yn y gogledd, ei fod yn teimlo y byddai codi premiwm o 300% yn ormod.

Dywedodd ei fod yn "deall be' ma'r cyngor yn trio g'neud", ond fod llawer o berchnogion ail gartrefi yn cyfrannu at gymunedau.

"Mae'n bwysig bo' ni ddim yn pwsho pawb i ffwrdd," meddai, gan ychwanegu fod y gogledd yn dibynnu ar dwristiaeth.

Ychwanegodd ei fod wedi gweld mwy o ail gartrefi yn cyrraedd y farchnad, ond fod y rheiny yn aml yn rhy ddrud i'r rheiny sydd eisiau prynu eu tŷ cyntaf.