Gwynedd i ymgynghori ar dreth 300% ar ail gartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynyddu'r dreth ar ail gartrefi yn y sir hyd at 300%.
O fis Ebrill 2023 bydd gan awdurdodau lleol yr hawl i dreblu'r premiwm sy'n cael ei godi ar y rheiny sy'n berchen ar fwy nag un eiddo.
Mae'r hawl hwnnw wedi ei awdurdodi gan Lywodraeth Cymru, gyda gweinidogion yn gobeithio gwneud hi'n haws i bobl allu prynu cartrefi yn yr ardaloedd ble cawsant eu magu.
Ond ar drothwy trafodaethau'r cabinet ddydd Mawrth, fe bwysleisiodd arweinydd y cyngor na ddylai unrhyw fesurau ychwanegol daro'r economi dwristiaeth leol.
Wrth siarad gyda Cymru Fyw fe nododd Dyfrig Siencyn hefyd angen i osgoi sefyllfa lle fo pobl leol yn cael eu cosbi o ganlyniad i unrhyw gynnydd arfaethedig.
Bydd yr awdurdod yn ymgynghori â thrigolion y sir yn y misoedd nesaf, a bydd y cyngor llawn ystyried yr argymhellion terfynol ar 1 Rhagfyr, fel bod modd cyflwyno unrhyw bremiwm newydd o Ebrill 2023 ymlaen.
Ers Ebrill 2021 mae Gwynedd, fel sawl cyngor arall yng Nghymru, yn codi'r uchafswm presennol o 100% ychwanegol ar drethi ail gartrefi.
Mae'r ymgynghoriad - sy'n ofynnol yn statudol os am fynd ymhellach a chodi'r premiwm hyd at 300% - yn cael ei lansio yn dilyn pryderon fod prisiau tai allan o gyrraedd pobl leol mewn sawl cymuned.
Mae ffigyrau diweddaraf y cyngor yn dangos bod 4,656 eiddo yn talu'r premiwm ail gartrefi yng Ngorffennaf 2022.
Roedd yr adroddiad i'r cabinet yn nodi bod "mynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy yn ogystal â'r nifer uchel o ail gartrefi ymysg prif flaenoriaethau'r cyngor".
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau i roi unrhyw arian ychwanegol a godwyd tuag at gynyddu nifer y tai fforddiadwy.
Os fydd y premiwm yn cael ei godi i'r uchafswm newydd, bydd yn golygu bod perchnogion ail gartrefi yn talu hyd at bedair gwaith yr hyn sy'n cael ei dalu mewn treth cyngor gan drigolion llawn amser Gwynedd.
Bydd y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer diffinio bod llety hunan-ddarpar yn talu ardrethi busnes yn hytrach na'r dreth gyngor hefyd yn newid o fis Ebrill nesaf.
Ar hyn o bryd mae eiddo sydd ar gael i'w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac sy'n cael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod, yn talu trethi busnes yn hytrach na'r dreth gyngor.
Ond bydd y trothwy newydd yn golygu bod rhaid i'r eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod, a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, er mwyn osgoi trethi domestig.
Dywedodd y llywodraeth y bydd hyn yn ei gwneud hi'n gliriach bod yr eiddo yn llety gwyliau gwirioneddol sy'n gwneud "cyfraniad sylweddol" i'r economi leol.
'Offeryn di-fîn'
Mewn ymateb i gynlluniau Cyngor Gwynedd i gynnal ymgynghoriad dywedodd aelod o'r grŵp Second Home Owners - Wales, sy'n cynrychioli perchnogion ail gartrefi, y byddai "erlyn perchnogion ail gartrefi ymhellach ond yn annog mwy i drosglwyddo i ardrethi busnes".
Gan bwysleisio fod sawl busnes yn ddibynnol ar berchnogion ail gartrefi a'u gwesteion, ychwanegodd John Rees Moss mai diffyg swyddi a chyfleoedd economaidd yn lleol oedd prif reswm diffyg fforddiadwyedd yn lleol.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae agwedd lefel sir gyfan at y premiwm yn offeryn di-fin. Dim ond ar lefel cyngor plwyf y dylid cyflwyno unrhyw bremiwm, lle mae ail eiddo yn cael effaith sylweddol ar argaeledd a phrisiau tai.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu ffynhonnell incwm o bwys drwy ganiatáu i garafanau sefydlog a phorthdai i beidio â thalu unrhyw dreth gyngor, felly'n cyfrannu dim tuag at gyfleusterau cyhoeddus."
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Ian Wyn Jones, arwerthwr tai yn y gogledd, ei fod yn teimlo y byddai codi premiwm o 300% yn ormod.
Dywedodd ei fod yn "deall be' ma'r cyngor yn trio g'neud", ond fod llawer o berchnogion ail gartrefi yn cyfrannu at gymunedau.
"Mae'n bwysig bo' ni ddim yn pwsho pawb i ffwrdd," meddai, gan fod y gogledd yn dibynnu gymaint ar dwristiaeth.
Ychwanegodd ei fod wedi gweld mwy o ail gartrefi yn cyrraedd y farchnad, ond fod y rheiny yn aml yn rhy ddrud i'r rheiny sydd eisiau prynu eu tŷ cyntaf.
'Elfennau yn effeithio ar bobl leol'
Ond yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, "mae'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna broblem, yn gam anferth ymlaen".
Dywedodd wrth Cymru Fyw bod "nifer o'r camau yn bethau rydym wedi gofyn amdanyn nhw, sef y gofyniad i gael caniatâd cynllunio i drosi o fod yn dŷ annedd i fod yn llety tymor byr".
Gan nodi fod angen mwy o eglurder ar yr elfen drwyddedu, pwysleisiodd mai'r bwriad oedd diogelu'r stoc dai, ac ni ddylai unrhyw fesurau daro pobl leol sy'n berchen ar fusnesau llety gwyliau.
Awgrymodd bod posibilrwydd y gall pobl sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio i drosi i lety gwyliau, ond na fyddai'n addas ar gyfer preswylio ynddynt llawn amser, fod yn eithriedig.
"Mae pob aelod, dwi'n siŵr, wedi bod yn cael negeseuon gan eu hetholwyr," dywedodd wrth Cymru Fyw, gan gydnabod ei fod yn ddadl danbaid yn lleol.
"Mae 'na nifer gyda'r camargraff fod y dreth am godi i 300% beth bynnag, ond tydi hynny ddim yn wir ac yn benderfyniad sydd i'w wneud gan aelodau'r cyngor llawn.
"'Da ni'n gwrando ar y negeseuon gan fod 'na elfennau [o'r mesurau] yn effeithio ar bobl leol i ddweud y gwir, ac ar fusnesau lleol sy'n bwysig iawn i'n heconomi leol."
'Problem gymdeithasol'
Ychwanegodd: "'Da ni angen bod yn ofalus ein bod, gyn belled ag y gallwn, yn gwarchod yr economi dwristiaeth leol.
"Nid dyna'n bwriad ni wrth alw am weithredu ar ochr ail gartrefi, ein bwriad ni ydi cael rheolaeth ar y gosod tymor byr yma sy'n tynnu tai annedd allan o'r stoc dai ac sy'n creu problem.
"Mae o'n poethi'r farchnad ac yn cyfrannu at y cynnydd mewn prisiau, sydd yn eithrio pobl leol o'r gallu i fedru prynu tŷ ac hefyd yn creu problem gymdeithasol. Mae 'na strydoedd cyfan mewn pentrefi a threfi sydd bellach yn beth fysa rhywun yn ei alw'n dai gwag.
"Dyna 'da ni isho'i reoli, mae o'n digwydd mewn mannau eraill ac dwi'n siŵr y gallwn ni gael llwyddiant yma yng Ngwynedd ac yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd26 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022