Disgyblion 'yn frwd' dros amrywio dulliau asesu TGAU
Mae ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mawrth ar drawsnewid cymwysterau TGAU Cymru.
Mae Cymwysterau Cymru, y corff sy'n gyfrifol am reoleiddio a sicrhau safonau, eisiau i athrawon, disgyblion, rhieni a chyflogwyr rannu eu barn am y cyrsiau newydd fydd yn dechrau cael eu dysgu o 2025.
Mae enwau rhai o'r cymwysterau'n newid, gan gynnwys TGAU Y Gwyddorau, sy'n dod â'r tri phwnc gwyddoniaeth - Cemeg, Ffiseg a Bioleg - gyda'i gilydd mewn un cymhwyster.
Newid arall sydd wedi bod yn ddadleuol yw uno Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth i greu un TGAU newydd mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog, a chymhwyster Cymraeg Craidd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn lle Cymraeg Ail Iaith.
Bydd yna lai o bwyslais yn gyffredinol ar arholiadau traddodiadol, yn ôl y rheoleiddiwr, a mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol.
Fel yr eglurodd Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru, ar raglen Dros Frecwast, mae disgyblion uwchradd eisoes wedi cyfrannu syniadau o ran newidiadau roedden nhw'n dymuno eu gweld.