Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth yn uno i greu un TGAU

  • Cyhoeddwyd
CanlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau yn rhan o ddiwygio pynciau TGAU i gyd-fynd â chyflwyno cwricwlwm newydd ysgolion Cymru

Fe fydd Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth yn cael eu huno i greu un TGAU newydd mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog fel rhan o newidiadau i gymwysterau o 2025.

Bydd TGAU Cymraeg gwahanol yn cael ei ddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a bydd y disgrifiad 'Ail Iaith' yn cael ei ollwng.

Dywedodd Cymwysterau Cymru mai'r nod oedd cael un TGAU ar gyfer holl ddisgyblion Cymru ond bod yna "ffordd i fynd" cyn bod hynny'n bosibl.

Mae'r penderfyniad i gyflwyno cymhwyster i gymryd lle Cymraeg Ail Iaith yn "amddifadu cenhedlaeth arall o blant" o'r Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae'r newidiadau yn rhan o ddiwygio pynciau TGAU i gyd-fynd â chyflwyno cwricwlwm newydd ysgolion Cymru.

Y newidiadau i'r Gymraeg yw:

  • Dileu TGAU Cymraeg Iaith a TGAU Cymraeg Llenyddiaeth a chreu un TGAU Cymraeg ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog;

  • Cyflwyno TGAU Cymraeg newydd ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg, yn lle'r cymhwyster Ail Iaith;

  • Cyflwyno cymhwyster ychwanegol i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sydd am fwrw 'mlaen gyda'r iaith.

Er bod y rhan fwyaf o'r cynllun i ddiwygio pynciau TGAU wedi eu cyhoeddi yn yr hydref, gan gynnwys uno Saesneg Iaith a Llenyddiaeth roedd yna oedi i'r penderfyniad am y Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yn y pen draw yw cael un cymhwyster Cymraeg cyffredinol ar gyfer pob dysgwr

Mae dyfodol cymwysterau Cymraeg wedi bod yn ddadleuol ac roedd gwahaniaeth barn amlwg yn yr ymateb i ymgynghoriad y llynedd.

Roedd rhai yn dadlau y gallai rhoi mwy o bwyslais ar y Gymraeg ddwysáu "teimlad negyddol" gan ddisgyblion a rhieni ynglŷn â'r ffaith bod Cymraeg yn orfodol hyd at 16 ac roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn anhapus am gael TGAU gwahanol ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg.

Dywedodd Emyr George o Cymwysterau Cymru bod y corff yn ffyddiog "y bydd y cymwysterau hyn ry'n ni'n eu cyflwyno yn helpu mwy o bobl ifanc i adael yr ysgol fel siaradwyr Cymraeg hyderus".

"Yn y pen draw, rydym am weld un cymhwyster Cymraeg cyffredinol ar gyfer pob dysgwr ym mhob lleoliad," meddai, "ond nid ydym yno eto oherwydd bod gan ddysgwyr lefelau amrywiol o gysylltiad â'r iaith."

Ychwanegodd y byddai Cymwysterau Cymru yn trafod gydag athrawon a dysgwyr wrth benderfynu enw ar gyfer y TGAU sy'n disodli Cymraeg Ail Iaith.

Dywedodd Catrin Verrall o Cymwysterau Cymru y byddai cyfuno Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth "yn rhoi mwy o gyfle i ddysgwyr i astudio llenyddiaeth achos mae'r niferoedd sydd wedi bod yn ei astudio wedi bod yn lleihau bob blwyddyn".

'Colli cyfle'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mai "ail-frandio" Cymraeg ail iaith oedd y penderfyniad yn y bôn.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, bod yna gyfle wedi ei golli

"Ni wedi colli cyfle fan hyn i gyflwyno cwricwlwm newydd a chyflwyno un cymhwyster gyda hynny," meddai.

Dywedodd ei bod yn "siomedig" na fu cynnydd wedi i adroddiad bron i ddegawd yn ôl ddweud ei bod yn "unfed awr ar ddeg" ar gyfer Cymraeg ail iaith.

"Fi'n meddwl bod e'n warthus," ychwanegodd.

Wrth groesawu'r cymwysterau newydd dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod y newidiadau'n "cael gwared ar y cysyniad o'r Gymraeg fel ail iaith".