Cymru'n 'gyffrous iawn' am gêm ail gyfle Cwpan y Byd
Mae tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru yn paratoi ar gyfer un o'u gemau pwysicaf erioed wrth iddynt wynebu Bosnia-Herzegovina yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd nos Iau.
Mae 13,500 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm dyngedfennol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
"Wrth gwrs 'da ni gyd yn gyffrous iawn, bach yn nerfus, ond mae hynny'n beth da - mae'n golygu gymaint i ni gyd," meddai'r chwaraewr canol cae Carrie Jones.
Ychwanegodd fod y garfan yn "gwybod bod Bosnia yn mynd i fod yn dîm anodd i chwarae'n eu herbyn" ond mai'r bwriad ydy ymosod er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth.
Os yn llwyddo i ennill nos Iau bydd tîm Gemma Grainger yn hedfan i Zürich i wynebu'r Swistir nos Fawrth nesaf, ond hyd yn oed pe bai Cymru'n ennill honno hefyd, mae'n debyg y bydd yn rhaid iddyn nhw herio tîm o gyfandir arall i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd.
Bydd y gêm rhwng Cymru a Bosnia-Herzegovina nos Iau ar gael i'w gwylio'n fyw gyda sylwebaeth Gymraeg ar Cymru Fyw.