Beth yw llwybr merched Cymru i Gwpan y Byd?
- Cyhoeddwyd

Ar nos Iau, 6 Hydref mae merched Cymru'n wynebu Bosnia-Herzegovina yng Nghaerdydd yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Daw hyn wedi i'r garfan orffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol, gan golli ond dwy o'u 10 gêm - ac roedd y ddwy golled yn erbyn un o dimau gorau'r byd, Ffrainc.
Ond dydi'r llwybr i gyrraedd Cwpan y Byd yn Awstralia a Seland Newydd ddim yn un syml i garfan Gemma Grainger, fel esbonia Owain Llŷr o adran chwaraeon BBC Cymru.
"Mae Cymru wedi bod yn ffodus i gael gêm gartref yn erbyn Bosnia & Herzegovina yn y rownd gyn-derfynol," meddai.
"Mae hon yn gêm y dylse nhw eu hennill gan fod Cymru 33 o safleoedd yn uwch 'na nhw ar restr detholion y byd. Os y bydden nhw'n fuddugol mi fydden nhw wedyn yn wynebu y Swistir oddi cartref, fydd yn dipyn mwy o her."

Os yw Cymru'n fuddugol yn erbyn Bosnia-Herzegovina bydd y garfan yn hedfan i Zürich i wynebu Y Swistir ar Nos Fawrth, 11 Hydref.
Os yn fuddugol yn erbyn Bosnia-Herzegovina a'r Swistir, efallai y bydd rhaid i'r cochion fynd gam ymhellach er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd.
"Ac wedyn mae pethau'n mynd yn gymleth," meddai Owain Llŷr, "hyd yn oed os y bydd Cymru yn llwyddo i ennill y ddwy gêm yn erbyn Bosnia & Herzegovina a'r Swistir, mae'n ymddangos wedyn y bydd yn rhaid iddyn nhw deithio i Seland Newydd ym mis Chwefror i chwarae mewn gêm ail-gyfle yn erbyn tîm o gyfandir arall."
Yn y cymal olaf fe all Cymru wynebu timau fel Haiti, Chile, Senegal, Panama neu Gwlad Thai, sydd wedi sicrhau eu safleoedd yno yn barod.

Un o chwaraewyr allweddol Cymru - Kayleigh Green, â sgoriodd bum gôl yn y rowndiau rhagbrofol.
Ond er y bydd y gemau nesaf yma'n brawf mawr i Gymru, mae Owain Llŷr yn credu bod yna gyfle gwirioneddol i'r garfan greu hanes a chyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.
"Mae 'na dalcen caled yn eu wynebu nhw os ydyn nhw am sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol - ond tydi hi ddim yn dasg amhosibl o bell ffordd," meddai.
"Mae'r tîm yma yn barod wedi creu hanes yn ystod yr ymgyrch ragbrofol bresennol. Maen nhw'n grŵp arbennig o chwaraewyr, a 'swn i'n synnu dim eu gweld nhw'n ennill y dair gêm nesaf a chreu hyd yn oed mwy o hanes."

Hefyd o ddiddordeb: