'Hiliaeth yn dal i fynd ymlaen' yn ysgolion Cymru

Mae'r gweinidog addysg Jeremy Miles wedi cyhoeddi deunyddiau dysgu amrywiaeth a gwrth-hiliaeth ar gyfer holl ysgolion Cymru.

Mae hanes a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno mewn ysgolion dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod adnoddau dysgu ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth bellach ar gael i bobl sy'n gweithio ym myd addysg, gyda'r nod o sicrhau bod pobl yn deall a datblygu arferion gwrth-hiliol.

Fe fu disgyblion o Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd ac Ysgol Uwchradd Llanwern yn cydweithio i baratoi deunydd ar gyfer y cynllun newydd, gan rannu eu profiadau nhw o hiliaeth.

Dywedodd Ifan a Gwen o Ysgol Glantaf eu bod nhw wedi cael profiad o hiliaeth yn yr ysgol, a bod hynny'n "dal i fynd ymlaen".