'Her' i geisio denu mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Ifan a Gwen o Ysgol Glantaf eu bod nhw wedi cael profiad o hiliaeth yn yr ysgol, a bod hynny'n "dal i fynd ymlaen".

Mae'r gweinidog addysg yn dweud bod 'na "her" wrth geisio denu rhagor o athrawon o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME) i ddysgu yn ysgolion Cymru.

Fe wnaeth Jeremy Miles ei sylwadau wrth gyhoeddi bod deunyddiau dysgu amrywiaeth a gwrth-hiliaeth bellach ar gael yng Nghymru.

Mae hanes a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno mewn ysgolion dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod adnoddau dysgu ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth bellach ar gael i bobl sy'n gweithio ym myd addysg, gyda'r nod o sicrhau bod pobl yn deall a datblygu arferion gwrth-hiliol.

'Adlewyrchu'r amrywiaeth'

Wrth lansio'r cynllun yn Ysgol Gyfun Llanwern yng Nghasnewydd, cafodd Jeremy Miles ei holi a oes digon o athrawon o gefndir ethnig yn ysgolion Cymru, yn enwedig y sector Gymraeg.

"Nagoes - mae'r ateb hynny yn gwbl glir," meddai.

"Mae gyda ni gynllun er mwyn sicrhau bod mwy o athrawon yn dod mewn i'r sector o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd sicrhau eu bod nhw'n cael cyfle i gael dyrchafiad i fod yn benaethiaid.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Miles yn dweud bod angen mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig yn y dosbarth yng Nghymru

"Does ganddon ni ddim digon o benaethiaid o leiafrifoedd ethnig yma yng Nghymru, felly mae'n sicr fod her gyda ni, ond ni wrthi yn mynd i'r afael gyda hynny."

Mae adnoddau dysgu am amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, yn ogystal ag hyfforddiant i staff, bellach ar gael ar-lein ar yr hyn sy'n cael ei alw'n gampws rhithiol.

"Fel rhan o'r cwricwlwm newydd 'dyn ni ddim yn cael gwersi ar wahân," meddai Mr Miles.

"Ond sicrhau bod yr holl gwricwlwm yn adlewyrchu yr amrywiaeth sydd yn ein cenedl ni, ac yn ein hanes ni hefyd.

"Felly p'un ai'ch bod chi'n trafod rhywbeth gwyddonol neu ym myd celfyddydau neu hanes neu llenyddiaeth, mae cyfle i allu dysgu'r pynciau 'na mewn ffordd sydd yn adlewyrchu amrywiaeth ein gwlad ni, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hynny."

Faint o athrawon sydd o leiafrifoedd ethnig?

Yn ôl yr arolwg diweddara o athrawon yn ôl ethnigrwydd gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022, dim ond 305 o'r rhai wnaeth ymateb oedd yn ystyried eu hunain fel bod o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig.

Mae hynny'n cymharu â 25,915 oedd yn ystyried eu hunain o gefndir gwyn.

Cyfanswm Athrawon - 26,600

  • Gwyn - 25,915

  • Grwpiau ethnig cymysg/lluosog - 165

  • Asiaidd/Asiaidd Prydeinig - 75

  • Du/Affricanaidd/Caribiaidd/Du Prydeinig - 35

  • Grwpiau ethnig eraill - 30

  • Gwrthodwyd rhoi'r wybodaeth - 165

  • Anhysbys/Ni chafwyd yr wybodaeth - 220

'Cymuned Gymraeg yn le gwyn iawn'

Fe fu disgyblion o Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd ac Ysgol Uwchradd Llanwern yn cydweithio i baratoi deunydd ar gyfer y cynllun newydd, gan rannu eu profiadau nhw o hiliaeth.

"Fi wedi cael profiad o hiliaeth yn yr ysgol," meddai Ifan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Glantaf.

"Dwi'n credu mae'n dal i fynd ymlaen yn y blynyddoedd iau.

"Fi'n credu mae'n fwy o fater o ddiffyg addysg, yn lle bod yn greulon.

"Felly os ni just yn gallu addysgu yr athrawon a'r disgyblion iau, bydd e'n lleihau - bydd e'n 'neud gwahaniaeth enfawr fi'n credu."

Mae un arall o ddisgyblion Glantaf, Gwen, yn dweud bod 'na fanteision mawr i gael adnoddau fel hyn i addysgu athrawon a disgyblion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn gallu teimlo'n "wahanol" o fewn cymunedau Cymraeg "gwyn iawn", meddai Gwen

"Mae mor bwysig oherwydd mae'r gymuned Gymraeg yn gallu bod yn lle gwyn iawn, a thrwy fod yn berson sydd ddim yn wyn o fewn y gymuned, chi'n gallu teimlo yn eitha' unig neu allwch chi deimlo'n wahanol," meddai.

"Mae codi ymwybyddiaeth o'r problemau mae pobl fel ni'n wynebu o fewn y gymuned yn rhywbeth rili pwysig, yn enwedig o fewn ysgolion, oherwydd mae plant mor ifanc."

Esiamplau o Gymru

Yn ôl dirprwy bennaeth Ysgol Glantaf, Dyfrig Rees, mae angen sicrhau bod profiadau cymunedau gwahanol yng Nghymru yn cael eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

"Yn draddodiadol, pan 'dan ni'n sôn am gefndiroedd ethnig, lleiafrifol 'dan ni falle yn sôn am hanes gwledydd tramor - gwledydd fel America er enghaifft - ac mae'r unigolion adnabyddus fel Martin Luther King a Rosa Parks yn aml yn rhan o'r cwricwlwm.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dyfrig Rees, dirprwy bennaeth Ysgol Glantaf, eisiau gweld y disgyblion yn dysgu mwy am hanes pobl BAME Cymreig

"Mae hynny'n amlwg yn bwysig ac yn werthfawr, ond be' sydd hefyd angen newid ydy bod ni'n canolbwyntio ar hanes Cymreig, a bod ni'n meddwl amdano.

"Ac yn addysgu am unigolion arwyddocaol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sydd 'di 'neud cyfraniadau gwych i fywyd yma yng Nghymru, ac i gymdeithas yn gyffredinol yng Nghaerdydd, i ni ac i Gymru yn fwy cyffredinol."

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes wedi croesawu'r deunyddiau dysgu newydd.

"Mae hwn yn gam positif mewn maes lle mae cymaint o waith i'w wneud," meddai. "Dros y misoedd nesaf byddwn ni'n gwrando ar brofiadau disgyblion ac athrawon o hiliaeth ac yn tanlinellu beth sydd angen newid. Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ddiogel ac i ddysgu heb ofn."

Pynciau cysylltiedig