Dyfodol i'r Iaith i 'gadw golwg graff' ar dargedau
Bydd mudiad Dyfodol i'r Iaith yn "cadw golwg graff" ar sut mae asiantaethau a'r llywodraeth yn cyflawni targedau, yn ôl ei brif weithredwr newydd.
Mae'r mudiad amhleidiol, sy'n gweithio er lles y Gymraeg, wedi penodi Dylan Bryn Jones, arbenigwr cynllunio iaith, i'r rôl.
Wrth ddechrau yn y swydd ddydd Llun, dywedodd wrth raglen Dros Frecwast fod y mudiad yn chwarae "rôl bwysig" wrth lobïo a chynnal trafodaethau gyda'r llywodraeth.
Yn ogystal â "gwireddu strategaeth miliwn o siaradwyr Cymraeg" erbyn 2050, ychwanegodd fod ganddo flaenoriaethau byr dymor hefyd wrth ymateb i effaith yr argyfwng costau byw ar "deuluoedd a'r gweithlu Cymraeg".