Prif weithredwr newydd i fudiad Dyfodol i'r Iaith
- Cyhoeddwyd
Mae Dyfodol i'r Iaith - mudiad amhleidiol sy'n gweithio er lles y Gymraeg - wedi penodi arbenigwr cynllunio iaith fel ei brif weithredwr newydd.
Bydd Dylan Bryn Roberts yn dechrau yn ei swydd newydd ddydd Llun, gan olynu Ruth Richards.
Yn wreiddiol o Nefyn yn Llŷn, mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Mae ganddo brofiad o hyrwyddo'r Gymraeg gyda gwahanol sefydliadau ers 30 mlynedd, yn cynnwys y Bwrdd Iaith, cyn iddo symud ymlaen i sefydlu cwmni cynllunio ieithyddol a chymunedol.
Ar ôl 10 mlynedd gyda'r cwmni, bu'n arwain Menter Iaith Bangor am bum mlynedd cyn dychwelyd i weithio yn gymunedol yn y trydydd sector.
Dywed Dyfodol i'r Iaith fod Mr Roberts wedi cynnal nifer helaeth o arolygon cenedlaethol, hyfforddiant ac asesiadau effaith ieithyddol ym meysydd addysg a thai.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn falch o gael cyfle i "ymgymryd â'r swydd gyffrous hon yn Dyfodol, ac i gael cyfrannu trwy lobïo er lles y Gymraeg".
"Mae'n gyfnod cyffrous a heriol ond rwy'n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gydag unigolion, cymunedau a sefydliadau i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw, ganolog a bywiog yng Nghymru," meddai.
Ychwanegodd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, fod y mudiad yn "hynod o ffodus i allu cael olynydd teilwng i Ruth Richards".
"Mae Dylan yn arbenigwr ym maes cynllunio iaith, a bydd ganddo rôl allweddol mewn hyrwyddo egwyddorion cynllunio iaith yng Nghymru," meddai.
Nod Dyfodol i'r Iaith yw dylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a deddfwriaeth drwy ddulliau cyfansoddiadol, er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019
- Cyhoeddwyd26 Mai 2018