Angen 'sgwrs ehangach' am effaith cau Pont y Borth

Mae angen cynllun hirdymor i fynd i'r afael â sgileffeithiau cau Pont y Borth rhwng Gwynedd a Môn, yn ôl arweinydd Cyngor Môn.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Llinos Medi mai'r prif bryder yn y lle cyntaf yw'r effaith ar wasanaethau brys, yn dilyn adroddiadau am broblemau traffig difrifol.

"Mae'r prif ysbyty ochr arall i'r bont, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y staff yn gallu cyrraedd eu gwaith a chleifion yn gallu cael yno," meddai.

Ond, dywedodd bod angen "sgwrs ehangach" hefyd.

"Mae hon yn briffordd o'r porthladd yng Nghaergybi i'r Deyrnas Unedig," ychwanegodd.

"Heneiddio mae Pont Menai - er pa mor hardd ydy hi - felly mae angen cael trefn yn ei le a bod y llywodraeth yng Nghymru rŵan yn ystyried o ddifri' be' ydy'r cynlluniau gorau er mwyn rhoi'r gwytnwch yna i bobl Ynys Môn."