Pont y Borth ar gau tan y flwyddyn newydd am waith 'hanfodol'

  • Cyhoeddwyd
Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bont dros Afon Menai ei chwblhau yn 1826

Mae disgwyl i Bont y Borth fod ar gau tan y flwyddyn newydd i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod angen cau y bont - un o ddwy sy'n cysylltu Môn gyda'r tir mawr - yn dilyn cyngor gan beirianwyr Priffyrdd y DU.

Fe gaeodd y bont am 14:00 brynhawn Gwener (21 Hydref) a than y bydd yn cael ei hailagor bydd cerbydau yn cael eu dargyfeirio dros Bont Britannia, ond mae'r droedffordd ar agor i "nifer cyfyngedig" o gerddwyr a seiclwyr sy'n dod oddi ar eu beiciau.

Roedd trafferthion traffig difrifol brynhawn Gwener, gyda chiwiau hir ar nifer o ffyrdd yn ardal Bangor.

Mae busnesau lleol yn beirniadu'r diffyg rhybudd gan ragweld trafferthion mawr nes i'r bont ailagor.

Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi ei bod hithau ond wedi cael gwybod bod y bont ar fin cau mewn "galwad i gyfarfod brys amser cinio".

Y flaenoriaeth, meddai, yw "diogelwch pobl" ac mae trafodaethau'n cael eu cynnal i lunio "cynlluniau pwrpasol" i leihau trafferthion tra bod ond un ffordd i draffig groesi rhwng yr ynys a'r tir mawr.

Agorwyd y bont - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Pont Menai - yn 1826.

Mae disgwyl iddi fod ar gau tan y flwyddyn newydd - bydd ei chau yn effeithio hefyd ar gerddwyr a beicwyr.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn profion ar ei chrogfachau - mae cynllun cynnal a chadw wedi bod yn weithredol ar y bont ers yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cau'r bont wedi achosi oedi i deithwyr ar ffyrdd yn yr ardal brynhawn dydd Gwener

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Hinsawdd, Lee Waters AS: "Mae'r gwaith brys hwn yn cael ei wneud er diogelwch y cyhoedd, yn anffodus nid oes modd ei osgoi ond rydym yn gwbl ymwybodol o'r oblygiadau i bobl yn yr ardal leol.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda UK Highways i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ddiogel ac mor gyflym â phosib, gan darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol."

Dywedodd llefarydd ar ran UK Highways A55 bod "argymhelliad gan beirianwyr strwythurol i gau'r bont am resymau diogelwch", a bod "rhaid i ni weithredu er budd diogelwch y cyhoedd".

Ychwanegodd bod yr awdurdod yn "asesu'r holl opsiynau sydd ar gael i ailagor y bont cyn gynted â phosibl fel y gall pobl ddychwelyd i ddefnyddio'r bont yn rheolaidd".

Trefniadau'r droedffordd

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad pellach nos Wener: "Yn dilyn trafodaethau gydag UK Highways a'u harbenigwyr strwythurol, mae'r droedffordd ar draws y bont wedi'i hailagor i gerddwyr a beicwyr sy'n dod oddi ar eu beiciau.

"Rhaid i bobl aros ar y llwybrau cerdded a bydd niferoedd yn gyfyngedig.

"Bydd swyddogion yn eu lle o ddydd Gwener, Hydref 21 tan ddydd Llun, Hydref 24 i reoli llif cerddwyr a bydd monitro yn cael ei roi ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth wrth symud ymlaen."

Mewn sgwrs ar raglen Post Prynhawn, dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi bod y cyhoeddiad bod y bont ar fin cau, a bod angen gweithredu mor gyflym, "yn hollol annisgwyl" ac "yn dipyn o sioc".

Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim cyfle i Gyngor Môn gynllunio o flaen llaw i atal tagfeydd dydd Gwener wrth i'r bont gau am 14:00, meddai'r arweinydd Llinos Medi

"Dydw i heb gael llawer mwy o rybudd na neb arall - mae o wedi digwydd yn andros o sydyn," dywedodd.

Mae diogelwch y cyhoedd yn flaenoriaeth, meddai, ac fe fydd yna drafodaethau yn y dyddiau nesaf i hwyluso teithiau rhwng yr ynys a'r tir mawr, yn enwedig gan fod gymaint o draffig i ac o borthladd Caergybi.

Y bwriad fydd creu"cynllunia' pwrpasol" i leihau trafferthion traffig "ond mae'n amhosib gweld sut na fydd 'na ddim tagfeydd" gyda gwyliau hanner tymor yr ysgolion ar y gorwel pan mae'r "ddwy bont yn brysur ofnadwy".

'Wedi brawychu'

Mewn post ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd bellach wedi ei ddileu ers hynny, dywedodd AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, ei bod wedi ei "brawychu" gan y cau gan fod y bont yn "hollbwysig" i deuluoedd, gweithwyr a myfyrwyr oedd yn ei defnyddio'n ddyddiol.

Ychwanegodd bod cyd-aelodau'r blaid yn y Senedd wedi galw ar lywodraeth Cymru i egluro "ar fyrder" pam nad oedd problemau'n cael eu rhagweld o ystyried oedran y bont.

Disgrifiad o’r llun,

Mae un gyrrwr wedi dweud wrth Cymru Fyw ei bod ond wedi gyrru hyd "15 lle parcio" mewn awr a thri chwarter wrth geisio gadael maes parcio Ysbyty Gwynedd

"Mae hyn yn annerbyniol," meddai.

"Ym mis Mehefin 2021, fe wnaeth llywodraeth Cymru rewi pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd i gynnal adolygiad.

"Mae'r oedi yn yr adolygiad hwn a diffyg buddsoddiad yn ein seilwaith yn cael effaith ddinistriol ar Ynys Môn."

Yn siarad fore Sadwrn dywedodd Aelod Senedd yr ynys, Rhun ap Iorwerth, bod materion i'w delio gyda "ar sawl lefel," gan ategu galwadau am bont arall a deuoli Pont Britannia er mwyn "creu y gwydnwch sydd ei angen."

"Mae angen gwneud yn siŵr fod camau'n cael eu rhoi mewn lle i warchod Ysbyty Gwynedd, busnes, pobl sydd angen croesi ar droed, a phobl sydd angen ei defnyddio o ddydd i ddydd," meddai.

"Ond wedyn yn syth mae rhaid gofyn y cwestiynau, sut ydan ni wedi cyrraedd y pwynt yma mor gyflym a sut na chafodd y problemau yma - sy'n amlwg yn cael eu hystyried yn rai difrifol - heb eu hadnabod yn gynt.

"Mae cau y bont yma, fel mae unrhyw un sy'n byw neu'n defnyddio'r system drafnidiaeth yn yr ardal yn gwybod, yn creu problem enfawr."

'Mae o'n mynd i fod yn hunllef'

Mae'r busnesau lleol yn rhagweld trafferthion difrifol tra bo Bont Y Borth ar gau.

"Mae'n mynd i fod yn strach anferthol," dywedodd Steph Rielly, ysgrifennydd cwmni T & V Haulage, o'r Felinheli, sydd â 10 o lorïau, ac yn cludo cerrig mân ers 35 o flynyddoedd.

"Ma' pob un o'n trucks ni'n mynd dros Bont Britannia dwywaith, deirgwaith y dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Ciwiau ar lôn orllewinol yr A55 ar gyrion Bangor ddiwedd prynhawn Gwener

"'Dan ni newydd ga'l galwad ffôn rŵan - nath un gyrrwr ada'l 40 munud yn ôl [ar daith i leoliad] pum munud i ffwrdd, a 'di o dal heb fynd dros y bont achos y traffig.

"Mae o wir yn mynd i effeithio arnon ni fel busnes... mae'n mynd i fod yn hunllef, braidd."

Dywedodd Ms Rielly mai ar Facebook y daeth i wybod bod y bont yn cau.

"Mae'n warthus bod nhw heb roi rhybudd i ni, ond hyd yn oed tasan nhw wedi rhoi rhybudd, does 'na nunlla i'r trucks barcio 'chwaith.

"Mae 'na truck stop ym Mangor lle mae 'na le i bedwar, does dim hyd yn oed un yng Nghaergybi. Mae'r trucks a'r loris yn mynd i fod yn bob man - mae'n mynd i fod yn hunllef anferthol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd i gerddwyr a beicwyr sy'n dod oddi ar eu beiciau groesi'r bont

'Cwsmeriaid yn hwyr'

Mae'r sefyllfa eisoes wedi dechrau effeithio ar fusnes Cefni Barber Shop, Llangefni hefyd, gyda chwsmeriaid yn ffonio i ddweud eu bod yn debygol o fod yn hwyr i'w hapwyntiadau.

"Ma' nhw'n styc wrth yr ysbyty," meddai Kerry Jones, gan gyfeirio at Ysbyty Gwynedd, ar gyrion Bangor. "Ma' nhw wedi bod yna am awr a hanner a dydyn nhw ddim yn symud.

"Ma' hi'n bumper to bumper. Ma' pobl yn ffonio i dd'eud 'mae'n bosib wnawn ni ddim cyrra'dd'...

"Mae'n mynd i fod yn ofnadwy. Pan nathon nhw gau'r bont ddwytha oherwydd damwain ddrwg, doeddan ni ddim hyd yn oed yn gallu mynd i'r gwaith. 'Dan ni'n byw yn LlanfairPG a doedden ni methu mynd allan o 'na."

Ychwanegodd Ms Jones: "Gobeithio bydd cynlluniau'n cael eu derbyn am drydedd lôn neu drydedd bont."

Disgrifiad,

Gwibdaith ar draws Pont Menai

Pynciau cysylltiedig