'Cyfrifiad yn siomedig ond nod miliwn siaradwr yn parhau'

Wedi i ffigyrau Cyfrifiad 2021 ddangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 562,000 i 539,000 ers 2011, dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn siomedig.

"Bu'n brwdfrydedd a'n buddsoddiad a'r niferoedd sy'n cael eu dysgu (drwy gyfrwng y Gymraeg) yn fwy nag erioed," meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg.

"Ond er gwaethaf canlyniadau heddiw mae'n hymrwymiad, fel llywodraeth, i'r miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn aros yr un peth."

Ychwanegodd nad yw'n credu bod strategaeth Llywodraeth Cymru wedi cael digon o amser i ddylanwadu hyd yma.