Cyfrifiad: Canran sy'n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i 17.8%

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth oedd canlyniadau'r Cyfrifiad yn ei ddatgelu am sefyllfa'r Gymraeg?

Mae canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng dros y degawd diwethaf, yn ôl y cyfrifiad.

Y ganran yn 2011 oedd 19.0%, ond erbyn 2021 roedd hynny wedi gostwng i 17.8%.

Yn 2021, nododd tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o'i gymharu â 562,000 yn 2011.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai dyma'r ganran isaf o'r boblogaeth sydd yn dweud eu bod yn siaradwyr Cymraeg sydd erioed wedi ei gofnodi ar y Cyfrifiad.

Faint o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg?. % dros 3 oed sy'n gallu siarad Cymraeg, fesul degawd.  Dim Cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

Un o'r prif ffactorau a gyfrannodd at y gostyngiad cyffredinol oedd y gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng tair a 15 oed a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi eu beirniadu gan y gwrthbleidiau am y dirywiad, gyda Phlaid Cymru'n galw'r gostyngiad ymhlith siaradwyr ifanc yn "hynod bryderus"

Mae un o weinidogion y llywodraeth wedi cydnabod fod y ffigyrau yn siomedig, ond dywedodd eu bod yn benderfynol o sicrhau fod y Gymraeg yn goroesi ac yn cael "ei defnyddio gan genedlaethau'r dyfodol".

Nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, 1921 i 2021

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y siaradwyr wedi gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, ar ôl cynyddu am y ddau ddegawd cyn hynny

Gostyngodd canran y preswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn a allai siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol ac eithrio Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Ond ar gyfer plant a phobl ifanc tair i 15 oed, fe wnaeth y ganran ostwng ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

'Prawf cyntaf' Cymraeg 2050

Mae arbenigwr ar bolisi iaith a chynllunio ieithyddol wedi dweud mai canlyniadau'r cyfrifiad yw'r prawf cyntaf o bolisi iaith Llywodraeth Cymru.

Mae 'na bum mlynedd ers cyhoeddi cynllun Cymraeg 2050, sydd â'r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn honno.

Ychwanegodd Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor fod mesur defnydd iaith yn allweddol wrth ddeall cyflwr y Gymraeg, ond dyw'r cyfrifiad ddim yn gwneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfrifiad wedi'i ddisgrifio fel y "prawf cyntaf" i gynllun Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru

Roedd y canrannau uchaf o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yng ngogledd orllewin Cymru, gyda 64.4% yng Ngwynedd a 55.8% yn Ynys Môn.

Sir Gaerfyrddin welodd y gostyngiad mwyaf yn y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg - gostyngiad o 43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021. Sir Gâr welodd y gostyngiad mwyaf rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd.

Mae pob awdurdod lleol wedi gweld gostyngiad yng nghanran y plant tair i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Roedd y gostyngiadau'n tueddu i fod yn fwy mewn ardaloedd lle mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn is, fel Blaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dyfrig Siencyn yn parhau'n obeithiol am y dyfodol

Yng Ngwynedd, dywedodd arweinydd y cyngor Dyfrig Siencyn fod nifer y bobl ifanc sy'n gadael y sir a nifer y mewnfudwyr yn ffactor yno.

Ond roedd yn obeithiol gan ddweud y gallai'r data fod yn gamarweiniol o ran y gostyngiad ymhlith siaradwyr ifanc.

"Mae rhywbeth yn od gyda ffigyrau, bosib bod plant wedi bod adre [o'r ysgol] gyda Covid, bosib bod yna gofnodi gwael - mae hyn ar draws Cymry sydd yn rhyfedd iawn i mi.

"Achos mae mwyafrif llethol y plant - tua 90% byddwn i'n dweud - yng Ngwynedd yn ddwyieithog erbyn bod nhw'n 11 oed.

"Os ydy niferoedd y plant yma yn trosglwyddo i'r oedran hŷn, ac mae'r oedran hŷn yn cynyddu yna mae'n argoeli'n dda."

O'r 1,917 o ardaloedd bach yng Nghymru, roedd canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn amrywio o 86.3% (ardal Seiont 1 yng Nghaernarfon) i 3.8% (ardal fach ym Mlaenau Gwent).

Nodwyd bod dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg mewn 7% o'r ardaloedd bach hyn - i lawr o 9% yn 2011.

O ran ardaloedd bach (poblogaeth o rhwng 1,000 a 2,500), mae'r 10 uchaf yng Nghymru i gyd yng Ngwynedd.

  • Seiont 1, Caernarfon - 86.3%

  • Llanrug - 86%

  • Bethel & Cwm-y-glo 1 - 85.9%

  • Peblig, Caernarfon - 84.6%

  • Penygroes - 83%

  • Bontnewydd - 82.6%

  • Ogwen 1, Bethesda - 81.2%

  • Llanwnda - 81.1%

  • Cadnant, Caernarfon - 81%

  • Llandderfel & Llanuwchllyn 2 - 80.6%

O ran cymunedau llai - rhai gyda phoblogaeth o rhwng 100 a 500 o bobl - ardal Uwch Conwy sy'n cynnwys Bro Garmon, Bro Machno ac Ysbyty Ifan sydd â'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg - 87.8%. Yno, allan o boblogaeth o 286 mae 251 yn siarad yr iaith.

Roedd yna bedwar o'r cymunedau llai yma yng Nghymru lle nad oedd yna'r un person yn siarad Cymraeg - yn ardal Trelái, Caerdydd, Bargoed yn Sir Caerffili, Pontnewydd, Cwmbrân ac Abercannaid ym Merthyr.

Canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol, 2021

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y canrannau uchaf o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y gogledd-orllewin, gyda 64.4% yng Ngwynedd a 55.8% ym Môn

Gostyngodd canran y bobl sy'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg ychydig - o 14.6% i 14.2%. Mae hyn yn cyfateb i tua 1,400 o bobl yn llai.

Mae hyn yn ostyngiad llawer llai nag a welwyd ar gyfer canran a nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.

Bach iawn oedd y newid yn y ganran o bobl oedd yn gallu deall Cymraeg llafar yn unig, sef gostyngiad o 5.3% yn 2011 i 5.2% yn 2021.

Nid oedd gan 74.7% o'r boblogaeth unrhyw sgiliau Cymraeg yn 2021. Mae hyn yn gynnydd o 73.3% yn 2011.

Canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl oedran

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Yn ymateb i'r canlyniadau dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod angen gosod nod o roi addysg Gymraeg i bawb er mwyn atal dirywiad yr iaith.

"Mae'r llywodraeth wedi datgan bwriad i anelu am filiwn o siaradwyr, ond heb weithredu i sicrhau'r twf angenrheidiol," meddai'r cadeirydd Robat Idris.

"Mae canlyniadau heddiw yn dangos bod rhaid newid gêr ar frys - un peth ymarferol y gall y llywodraeth ei wneud rŵan ydy gosod nod yn y Ddeddf Addysg Gymraeg newydd y bydd pob plentyn yn cael eu haddysg drwy'r Gymraeg.

"Pa ryfedd mewn gwirionedd bod gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg? Ar hyn o bryd mae 80% o'n pobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg.

"O ystyried hanes yr iaith, mae angen gweithredu pwrpasol gan y llywodraeth os ydyn nhw o ddifrif am adfywiad yr iaith."

'Dirywiad pellach mewn bröydd Cymraeg'

Ychwanegodd grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra mai'r "bygythiad mwyaf i'r iaith yw dirywiad pellach yng nghanran siaradwyr mewn bröydd Cymraeg".

"Mae canlyniadau'r cyfrifiad wedi amlygu'r realiti hwn," meddai'r grŵp mewn datganiad.

"I sicrhau dyfodol i'n hiaith rhaid i'r llywodraeth ac awdurdodau lleol weithredu yn ddi-oed, gan roi sylw neilltuol i gymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith feunyddiol trwch y boblogaeth.

"Heb gymunedau Cymraeg does dim dyfodol i'r iaith fel iaith fyw."

Pynciau cysylltiedig