Sycharth: Deiseb i ddiogelu safle llys Owain Glyndŵr
Fe gododd pryderon yn gynharach eleni ynghylch cyflwr "digalon" prif gartref Owain Glyndŵr yng ngogledd Powys, ynghyd â galw i'w brynu a'i warchod ar gyfer y genedl.
Mae Sycharth dan berchnogaeth breifat ar hyn o bryd a'r tirfeddianwyr felly sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r safle, er mae'r corff cadwraethol Cadw wedi gosod bwrdd gwybodaeth a chodi camfa i hwyluso mynediad at lwybr cyhoeddus sy'n arwain at y mwnt.
Ond mae cynghorydd sir o Wynedd, Elfed Wyn ab Elwyn, wedi llunio deiseb yn y gobaith o berswadio Llywodraeth Cymru i brynu Sycharth "a'i wneud yn fwy hygyrch i bobl allu mynd yno i werthfawrogi'r safle bendigedig yma".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r ddeiseb, ac fel gyda phob deiseb sydd wedi'i chofrestru gyda'r Senedd, byddwn yn ymateb pan gaiff ei chyfeirio at Lywodraeth Cymru gan y Pwyllgor."
Eglurodd Mr ab Elwyn ei resymau dros drefnu'r ddeiseb ar raglen Dros Frecwast.