'Gwell pe bai cartref Glyndŵr dan berchnogaeth gyhoeddus'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai safle prif gartref Owain Glyndŵr fod mewn perchnogaeth gyhoeddus er mwyn iddo gael ei warchod ar gyfer y genedl.
Dyna farn aelod o Gymdeithas Owain Glyndŵr ynglŷn â Sycharth, safle plasty Glyndŵr yng ngogledd Powys.
Daw'r sylwadau yn dilyn pryder am gyflwr y safle, gyda rhai ymwelwyr yn dweud eu bod wedi dod oddi yno'n ddiweddar yn teimlo'n "ddigalon".
Mae Sycharth yn heneb restredig, ond mae ar dir preifat, ac yn ôl Cadw - y corff sy'n diogelu safleoedd hanesyddol - y tirfeddianwyr sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r safle.
Bellach mae Sycharth yn rhan o Ystâd Llangedwyn ac yn eiddo i deulu'r Williams Wynn.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Ystâd Llangedwyn: "Ry'n ni mewn cysylltiad â Cadw i gytuno ar amserlen ar gyfer gwaith i ddiogelu Sycharth yn y ffordd orau."
Yn ôl Lloyd James - aelod o bwyllgor rheoli Cymdeithas Owain Glyndŵr - byddai'n well pe bai Sycharth dan ofal Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr James: "Wi'n credu mai dymuniad y Gymdeithas fyddai fod rheolaeth o'r safle yn dod o dan Lywodraeth Cymru, er enghraifft.
"Dyw hyn ddim yn rhywbeth ry'n ni wedi'i drafod yn y gorffennol felly does gen i ddim penderfyniad ar ran y Gymdeithas, ond wi'n gwybod ei fod yn rhywbeth y bydd swyddogion y Gymdeithas yn ystyried yn ddwys."
Owain Glyndŵr oedd y Cymro olaf i gael ei alw'n Dywysog Cymru.
Roedd Sycharth yn blasty pren ar ben mwnt - roedd adeiladau eraill ar waelod y mwnt, a ffos o ddŵr yn ei amgylchynu.
Roedd yn gartref i Glyndŵr hyd nes i'r lle gael ei losgi gan filwyr brenin Lloegr ym 1403.
Erbyn heddiw, mae'n heneb restredig ac mae Cadw wedi gosod bwrdd gwybodaeth a chodi camfa i hwyluso mynediad at lwybr cyhoeddus sy'n arwain at y mwnt.
Fe godwyd pryderon ynglŷn â chyflwr Sycharth yn ddiweddar ar ôl i aelodau o Gwmni Theatr Maldwyn ymweld â'r safle.
Mae'r cwmni'n paratoi perfformiad newydd o'r sioe gerdd 'Y Mab Darogan', sydd wedi seilio ar hanes Owain Glyndŵr, ac fe aethon nhw i Sycharth fel rhan o'r paratoadau.
Dywedodd Penri Roberts, un o gyfarwyddwyr y cwmni: "Mae 'na faes parcio bach yna, ond dyw e ddim mewn cyflwr gwych ac wedyn mae 'na gamfa yn arwain [at y safle] ond mae'r gamfa wedi torri.
"Ac wedyn mae'r safle ei hun, wrth ddringo i ben y mwnt, mae'n flêr ac mae dod lawr o'r mwnt yn gallu bod yn anodd hefyd.
"Y teimlad cyffredinol ydy nad oes 'na ddim gofal yn cael ei roi i'r lle.
"Ddylai unrhyw un sy'n mynd i Sycharth ddim dod o 'na yn teimlo'n ddigalon, ond dyna'r teimlad oedd gen i a dwi wedi cael o sawl gwaith."
Yn ôl Bryn Davies, ffermwr lleol sydd wedi arwain sawl taith gerdded i'r safle, mae cyflwr Sycharth yn gwaethygu.
"Mae'n dirywio," meddai. "Does dim ymdrech at ofal na chynnal a chadw. Mae'r mieri a'r draen a'r esgyll a'r dana'l poethion yn tyfu a thyfu."
Mae Sycharth bellach ar dir fferm ond dywed Bryn Davies nad oes unrhyw gyfrifoldeb am gynnal a chadw ar y ffermwr sy'n denant i Ystâd Llangedwyn.
"Nid ei gyfrifoldeb o ydy ffensio y darnau pwysig oddi wrth weddill y tir amaeth sydd o gwmpas. Mae hwn yn safle o arwyddocâd cenedlaethol."
O dan y Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol mae gan Weinidogion Cymru'r gallu i gymryd asedau hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol i'w gwarchodaeth.
Mae yna broses ffurfiol ar gyfer cynnig eiddo i'w hystyried ar gyfer gwarchodaeth.
Dywedodd Lloyd James ei fod o'r farn y byddai pwyllgor Cymdeithas Owain Glyndŵr yn gefnogol i wneud cais o'r fath yn achos Sycharth.
Mae Penri Roberts yn bendant y dylai'r safle fod ym mherchnogaeth gyhoeddus.
"Byddai fo'n llawer iawn gwell pe byddai ni fel cenedl yn berchennog ar safle Sycharth, o dan ofal Cadw," meddai, "ac wedyn byddan nhw'n gallu gwneud gwelliannau heb orfod gofyn i neb arall."
Dywedodd llefarydd ar ran Cadw: "Mae Cadw wastad wedi cydnabod arwyddocâd Sycharth, ac wedi darparu grantiau i gefnogi'r perchnogion i wneud gwaith cynnal a chadw.
"Yn 2010-11 buddsoddodd Cadw'n helaeth yn yr heneb, ynghyd â safle mwnt a ffos Owain Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy, gyda gwaith cyfalaf o dros £500,000 ar y ddau safle dan berchnogaeth breifat.
"Yn Sycharth, roedd hyn yn cynnwys ffurfioli'r mynediad cyhoeddus presennol i'r safle gydag Ystâd Llangedwyn, creu'r maes parcio, gosod cyfieithiad a gwarchod y gwrthgloddiau, a oedd wedi'u draenio'n wael ac a oedd wedi'u herydu'n wael gan wartheg.
"Er bod yr heneb ei hun yn parhau i fod mewn cyflwr da, rydym yn cydnabod bod angen gwella'r maes parcio a'r llwybrau mynediad erbyn hyn. Rydym yn gweithio gydag Ystâd Llangedwyn i gyflawni hyn.
"Bydd Cadw'n ariannu camfa newydd well, ac adnewyddu'r maes parcio ag arwyneb mwy gwydn. Mae'r gwaith hwn ar fin digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022
- Cyhoeddwyd12 Medi 2019