'Dim lot o newyddion yn dod trwyddo gan Dŵr Cymru'

Mae Dŵr Cymru'n dweud y bydd cyflenwadau dŵr yn cael eu hadfer i'r "rhan fwyaf" o'u cwsmeriaid erbyn diwedd y dydd, yn dilyn trafferthion gyda phibellau.

Daw hynny wedi i filoedd o dai yn y gorllewin a'r canolbarth fod heb gyflenwad dŵr ers y penwythnos, ar ôl i'r tywydd rhewllyd achosi difrod i bibellau.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am y trafferthion, gan ddweud bod adfer y cyflenwadau'n profi'n "her fawr iawn".

Ein gohebydd Elen Davies fu'n holi trigolion a busnesau Aberaeron am y sefyllfa.