'Gobeithio adfer cyflenwad dŵr pawb erbyn bore Mercher'
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod yn gobeithio y bydd cyflenwadau dŵr pawb o'u cwsmeriaid wedi'i adfer erbyn bore Mercher, yn dilyn trafferthion gyda phibellau.
Daw hynny wedi i filoedd o dai yn y gorllewin a'r canolbarth fod heb gyflenwad dŵr ers y penwythnos, ar ôl i'r tywydd rhewllyd achosi difrod i bibellau.
Yn y cyfamser mae cwsmeriaid wedi cael cynnig dŵr potel, a chanolfannau darparu dŵr potel hefyd wedi eu sefydlu yn Eglwys St Tysul, Llandysul, a Mart Castellnewydd Emlyn.
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am y trafferthion, gan ddweud bod adfer y cyflenwadau'n profi'n "her fawr iawn", gyda phrif weithredwr y cwmni yn dweud bod 500 o bobl yn gweithio ar ail-sefydlu'r cyflenwad.
Ychwanegodd Peter Perry bod "dwy fil i ddwy fil a hanner" o gwsmeriaid yn parhau i gael eu heffeithio ond byddai staff yn gweithio drwy'r nos a dylai'r "mwyafrif" weld eu cyflenwad yn cael ei adfer "dros nos ac mewn i ddydd Mercher".
Yn ol Dŵr Cymru mae nhw eisoes wedi adfer cyflenwad 1,500 o gartrefi.
Blaenoriaethu dŵr potel
Mae Dŵr Cymru wedi bod yn delio â phrif bibellau dŵr sydd wedi byrstio yn ardaloedd Efailwen a Chlunderwen yn Sir Benfro, a Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd adroddiadau o broblemau tebyg yn ardaloedd Glanyfferi a Chydweli hefyd, gyda rhai cartrefi yn ardaloedd Llandysul ac Aberteifi wedi bod heb ddŵr ers dydd Sadwrn.
Dywedodd Dŵr Cymru fod tair gwaith y nifer arferol o ollyngiadau wedi digwydd ar eu rhwydwaith dros y dyddiau diwethaf, ac felly nad oes digon o ddŵr ar gyfer pobl yr ardal nes y bydd y rheiny wedi eu trwsio.
Ers ddydd Gwener mae'r cwmni'n dweud eu bod wedi dosbarthu 50,000 o boteli dŵr, ond oherwydd prinder maen nhw nawr bellach ond yn eu rhoi i gwsmeriaid sydd angen blaenoriaeth am resymau meddygol.
"Yn anffodus allwn ni ddim dosbarthu'n fwy eang [na hynny], ac rydym yn eich annog i gysylltu gyda theulu, ffrindiau a chymdogion am gymorth," meddai Dŵr Cymru mewn diweddariad brynhawn ddydd Mawrth.
"Rydyn ni hefyd yn eich annog i gynnig cymorth i gymdogion a'ch cymuned ehangach os oes modd i chi wneud."
Mewn datganiad nos Fawrth dywedodd Dŵr Cymru eu bod bellach wedi trwsio dros 100 o ollyngiadau ac adfer cyflenwad i "tua 1,500 eiddo".
Dyw'r cwmni heb fanylu ar faint o gartrefi sy'n parhau heb gyflenwad.
"Hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra parhaus y mae cwsmeriaid yn yr ardal yn ei brofi oherwydd dim dŵr neu bwysedd dŵr isel," meddai'r datganiad.
"Gwnaethom gynnydd da neithiwr a thrwy heddiw gyda chanfod a thrwsio dros 100 o ollyngiadau... ac rydym bellach wedi adfer cyflenwadau i tua 1,500 eiddo.
"Disgwyliwn i weddill y cyflenwadau yr effeithir arnynt ddychwelyd dros nos.
"Dylem, fodd bynnag, dynnu sylw at y ffaith, wrth i'r lefelau yn y system ddychwelyd i normal, bod risg y bydd 'cloeon' aer yn datblygu a allai aflonyddu ar gyflenwadau dros dro."
Yn siarad ar Wales Today dywedodd y prif weithredwr, Peter Perry, bod "pob ymdrech" yn cael ei wneud i ddatrys y broblem, gyda phum cant o bobl yn gweithio drwy'r nos i adfer y cyflenwad.
Ond cyfaddefodd Mr Perry hefyd fod problemau gyda danfoniadau dŵr potel ac bod "gwersi i'w dysgu", gydag adolygiad "trylwyr" i'w gynal ar ôl y digwyddiad.
'Ni wedi gorfod canslo'r lot'
Ym mwyty McCowans yn Aberaeron mae'r cyflenwad dŵr wedi bod yn gymysg iawn dros y dyddiau diwethaf - ymlaen weithiau ac yna i ffwrdd heb rybudd.
Roedd y caffi wedi paratoi bwyd cyn i'r dŵr fynd i ffwrdd, ac felly wedi agor ddydd Mawrth heb ddŵr er mwyn atal y bwyd rhag mynd yn wastraff.
"Wythnos 'ma o'n ni'n llawn - fully booked - partis Nadolig bob dydd, a ni wedi gorfod canslo'r lot," meddai'r perchennog Clare Cowan.
"Ni wedi gorfod prynu'r stoc yn barod, so ma' fe'n gostus dros ben.
"Ni'n gorfod gwneud y penderfyniad heno ydyn ni'n mynd i ganslo popeth at ddiwedd yr wythnos, neu ydyn ni'n mynd i gymryd y risg a dechrau pobi a chwcio? Ma' fe'n reallyanodd."
Yn ogystal â'r pryder am yr effaith ar ei busnes, mae Ms McCowan yn poeni am unigolion bregus yn y gymuned.
"Mae'r sefyllfa'n really wael. Mae 'na bobl sy'n byw ben eu hunain - methu dod mas o'r tŷ. Mae sôn bod pobl heb hyd yn oed cael neges i ddweud bod dim dŵr.
"Mae'n hala ti i fecso. Mae cwpl o bobl ni'n 'nabod sy' ben eu hunain. Be os dyw rhywun ddim yn dod i checkio sut maen nhw?
"Falle bod pobl allan 'na yng Ngheredigion ar hyn o bryd sydd wedi bod heb ddŵr ers sawl diwrnod, a falle bod neb hyd yn oed yn gwybod bo' nhw 'na."
'Gwell cyfathrebu'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mawrth dywedodd AS Ceredigion, Ben Lake y dylai Dŵr Cymru fod wedi cyfathrebu â thrigolion y sir yn well.
"Pe bai wedi bod yn bosib cael mwy o amserlen byddai wedi helpu pobl i gynllunio," meddai.
"Nawr rwy'n deall bod natur y gwaith a graddfa'r broblem yn ei gwneud hi'n anodd i roi amser penodol pendant, ond byddai gwell cyfathrebu o'r cychwyn wedi bod yn help a byddai pobl ar draws y sir wedi croesawu hynny dwi'n siŵr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2022