Prysurdeb ac heriau Nadolig i siopau Porthaethwy

Mae busnesau ym Mhorthaethwy yn dweud eu bod nhw'n obeithiol am flwyddyn well yn 2023, wedi i lawer gael eu heffeithio gan gau Pont y Borth.

Cafodd y bont ei chau ddiwedd Hydref ar gyfer gwaith atgyweirio brys, ac mae disgwyl iddi ailagor ddiwedd Ionawr.

Roedd pryder ymhlith busnesau'r dref y byddai hynny'n golygu llai o bobl yn dod i'r stryd fawr, ac felly cafodd mesurau eu cyflwyno gan gynnwys bws wennol ar gyfer de'r ynys a pharcio am ddim.

Bydd y drefn parcio am ddim yn parhau ym Mhorthaethwy tan ddiwedd Ionawr, gyda rhai busnesau yn dweud bod bod hynny wedi llwyddo i'w cadw nhw'n ddigon prysur dros gyfnod y Nadolig, ond eraill ddim yn siŵr a yw'r mesurau'n gweithio.

Yn y cyfamser mae Cyngor Môn wedi cynnal arolwg i asesu effaith cau'r bont ar y dref, ac yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru am help ariannol i'r busnesau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n deall y rhwystredigaeth, a'u bod yn gwneud popeth y gallan nhw i gyflymu'r gwaith trwsio.