Gemau'r Ynysoedd: 'Parhau efo ethos y tîm pêl-droed'
Mae dirprwy arweinydd Cyngor Môn yn credu bod cynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2027 yn 'gyfle euraidd' i'r ynys.
Er yn cydnabod fod "arian yn dynn", dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod rhai cyfleusterau chwaraeon eisoes wedi cael eu huwchraddio dros y blynyddoedd diwethaf.
Wedi cystadlu ymhob Gemau'r Ynysoedd ers ei sefydlu yn 1985, roedd Môn wedi bod yn aflwyddiannus yn ei hymgais i gynnal y cystadleuaeth yn y gorffennol, dolen allanol.
Ond daeth y newyddion yn 2020 fod y cais diweddaraf i groesawu'r gemau i ogledd Cymru wedi llwyddo o'r diwedd.
Bydd y gystadleuaeth, sy'n denu miloedd o athletwyr o dros 20 o ynysoedd, yn cael ei gynnal ym Môn am y tro cyntaf yn 2027.