Comisiynydd y Gymraeg: 'Mwy o gyfleoedd a mwy o hyder'
Dylai pob athro yng Nghymru gael "rhywfaint o hyfforddiant" yn y Gymraeg cyn iddyn nhw basio eu cwrs dysgu, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg newydd.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones y byddai hynny'n un ffordd o daclo prinder yr athrawon sy'n gymwys i ddysgu drwy'r iaith - un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r amcan o ehangu addysg Gymraeg.
Yn ei chyfweliad cyntaf ers cael ei phenodi, dywedodd hefyd fod hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg a magu "hyder" pobl i'w siarad yr un mor bwysig â'r gwaith o reoleiddio cyrff cyhoeddus.
Ychwanegodd na ddylai pobl "ddigalonni" gyda ffigyrau'r Cyfrifiad wnaeth ddangos cwymp yn y nifer sy'n siarad yr iaith, gan fod "pethau positif" yn y ffigyrau hefyd.
Er bod nifer y plant yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg, yn ôl y Cyfrifiad, mae'r nifer sydd mewn addysg Gymraeg wedi cynyddu o tua 10,000.
Darllenwch y stori'n llawn: Galw am 'rywfaint o hyfforddiant Cymraeg' i bob athro