Galw am 'rywfaint o hyfforddiant Cymraeg' i bob athro

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones: 'Mae'r nod yn syml iawn'

Dylai pob athro yng Nghymru gael "rhywfaint o hyfforddiant" yn y Gymraeg cyn iddyn nhw basio eu cwrs dysgu, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg newydd.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones y byddai hynny'n un ffordd o daclo prinder yr athrawon sy'n gymwys i ddysgu drwy'r iaith - un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r amcan o ehangu addysg Gymraeg.

Yn ei chyfweliad cyntaf ers cael ei phenodi, dywedodd hefyd fod hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg a magu "hyder" pobl i'w siarad yr un mor bwysig â'r gwaith o reoleiddio cyrff cyhoeddus.

Ychwanegodd na ddylai pobl "ddigalonni" gyda ffigyrau'r Cyfrifiad wnaeth ddangos cwymp yn y nifer sy'n siarad yr iaith, gan fod "pethau positif" yn y ffigyrau hefyd.

'Pawb gyda rhywfaint o Gymraeg'

Er bod nifer y plant yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg wedi gostwng yn y degawd diwethaf, yn ôl y Cyfrifiad, mae'r nifer sydd mewn addysg Gymraeg wedi cynyddu o tua 10,000.

Ond un o'r heriau mwyaf sy'n atal twf pellach mewn addysg Gymraeg, neu wella safon y gwersi Cymraeg mewn ysgolion Saesneg, yw'r diffyg athrawon, meddai Ms Jones.

"Mae'n glir i fi er enghraifft bod gwaith i'w wneud o ran gwella ansawdd dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion di-Gymraeg," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gallu bod yn her i ysgolion di-Gymraeg recriwtio athrawon Cymraeg safonol, meddai Efa Gruffudd Jones

Cyn iddi cael ei phenodi fel Comisiynydd y Gymraeg, bu Efa Gruffudd Jones yn brif weithredwr ar yr Urdd ac yna'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd y byddai fel Comisiynydd yn ceisio helpu i sicrhau bod "hyfforddiant gwell i athrawon sy'n hyfforddi".

"Dyna pam mod i newydd awgrymu bod angen edrych ar hyfforddiant cychwynnol athrawon, a sicrhau bod 'na elfennau o hyfforddi iaith yn rhan o'r hyfforddiant hwnnw," meddai.

"Wedi'r cyfan mae pawb yng Nghymru yn derbyn rhywfaint o addysg Gymraeg, felly mater o adeiladu ar y sgiliau hynny ydy hi - 'dyn ni ddim yn dechrau o ddim byd pan fydd myfyrwyr yn dechrau ar eu taith i ddod yn athrawon.

"Dwi'n credu bod e'n drafodaeth ynglŷn â beth yw'r lefel a faint o hyfforddiant y gellir ei roi, ond bydden i'n disgwyl i bawb fod yn derbyn rhywfaint o hyfforddiant yn sicr."

'Linc rhwng hyder a defnydd'

Efa Gruffudd Jones yw'r trydydd Comisiynydd y Gymraeg parhaol ers i'r rôl gael ei greu yn 2011, yn dilyn Meri Huws ac Aled Roberts.

Bu farw Mr Roberts, cyn-Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, o ganser ym mis Chwefror 2022, ac ers hynny bu'r swyddfa'n cael ei arwain dros dro gan y Dirprwy Gomisiynydd, Gwenith Price.

Wrth drafod ei thargedau hi yn y swydd newydd, dywedodd Ms Jones mai'r "nod yn syml" oedd "gweld mwy o bobl yn siarad a mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg".

Ond ychwanegodd bod rhoi gwybod i siaradwyr Cymraeg fod modd iddyn nhw gael gwasanaethau yn yr iaith, yr un mor bwysig â'r dasg o sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn eu darparu yn y lle cyntaf.

"Does dim pwrpas cael un heb y llall, mae'r ddau yn rhan o'r un peth," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o waith y Comisiynydd yn cynnwys sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn darparu'r gwasanaethau Cymraeg y dylen nhw

"Does dim pwrpas i ni sicrhau bod y gwasanaethau ar gael os nad yw pobl yn eu defnyddio nhw."

Ychwanegodd y byddai hynny'n rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith, fyddai yn ei dro yn helpu iddyn nhw fagu hyder yn eu sgiliau iaith.

"Mae 'na linc pendant rhwng hyder pobl i siarad Cymraeg a'u defnydd nhw o'r Gymraeg," meddai.

"Felly'r mwyaf o gyfleoedd allwn ni roi i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, bydd eu hyder nhw'n cynyddu, a bydd hynny'n arwain yn y pendraw at fwy o bobl yn dweud yn y Cyfrifiad eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg."

'Pryder' am Sir Gâr

Fe ddangosodd ffigyrau Cyfrifiad 2021 bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 19% i 17.8%, gyda'r cwymp yn bennaf yn yr oedran 5-19.

Ond mynnodd Ms Jones nad oedd angen "digalonni", ac mai'r "un yw'r dasg sydd o'n blaen ni" waeth beth oedd yr ystadegau'n eu dweud.

"Mae'r ffigyrau er enghraifft yn dangos cynnydd yn yr oedran 19-44, ac i raddau mae'r ffigyrau yna'n adlewyrchu'r twf sydd wedi bod mewn addysg Gymraeg," meddai.

"Dwi ddim yn dweud ei fod e'n dwf digonol, ond mae 'na arwydd yn y ffigyrau fod 'na gynnydd mewn addysg Gymraeg yn arwain at dwf mewn niferoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 250 o bobl yn rali Cymdeithas yr Iaith ddydd Sadwrn yng Nghaerfyrddin

Er hynny mae'n dweud ei bod yn rhannu'r "pryder" am sefyllfa'r iaith yn Sir Gaerfyrddin, ble gwelwyd cwymp o 4% - yr uchaf yng Nghymru.

Dros y penwythnos cafodd rali iaith ei chynnal yng Nghaerfyrddin, gyda'r canwr a'r ymgyrchydd Dafydd Iwan yn galw am sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg.

"Dwi'n meddwl bod Sir Gâr yn enghraifft dda o lle mae angen i nifer o asiantaethau ddod at ei gilydd i edrych ar yr anawsterau ac i weithio gyda'n gilydd i wneud beth y gallwn ni," meddai Efa Gruffudd Jones.

"Dwi'n meddwl bod Sir Gaerfyrddin yn un o'r rhai yn enwedig ble mae angen cynyddu hyder y siaradwyr hynny sydd yn gallu siarad Cymraeg, ond falle ddim wedi arfer gwneud hynny'n ddyddiol."

'Heriau recriwtio athrawon'

Yn 2021 fe wnaeth ffigyrau Cyngor y Gweithlu Addysg ddangos bod 33.5% o athrawon yng Nghymru'n gallu siarad Cymraeg, a 27.1% yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg - ffigyrau sydd wedi bod fwy neu lai'n gyson dros y pum mlynedd diwethaf.

Mewn ymateb i sylwadau Efa Gruffudd Jones, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg bod athrawon dan hyfforddiant yn cael "eu hasesu ar eu sgiliau iaith Gymraeg", a'u "cefnogi i ddatblygu eu sgiliau".

"Fel nifer o wledydd eraill ledled y byd, mae Cymru'n wynebu nifer o heriau recriwtio athrawon, yn enwedig pan fo gofyn am neu alw uchel am sgiliau arbenigol," meddai.

"Ry'n ni'n falch bod Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill, wedi cydnabod yr heriau yma, gan gyhoeddi cynllun cynhwysfawr 10 mlynedd i recriwtio a chadw athrawon.

"Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgynghori'n ddiweddar iawn ar y meini prawf sy'n tanategu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru fydd, yn ddibynnol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, yn cryfhau ac egluro'r maes gwaith yma.

"Fel gweithlu addysg, ry'n ni'n monitro data o ran yr iaith Gymraeg mewn addysg yn rheolaidd."