Colli swyddi 2 Sisters: 'Dwi'n teimlo'n reit flin'
Wedi i gwmni 2 Sisters gyhoeddi eu bwriad i gau safle yn Llangefni, gan adael dros 700 o swyddi yn y fantol, mae un o weithwyr y cwmni wedi ei ddisgrifio fel "dipyn o sioc".
Yn ôl y cwmni "mae'n rhaid gwneud newidiadau" oherwydd heriau'r sector cynhyrchu bwyd.
Ond mae'r newydd wedi bod yn ysgytwad i gymuned Ynys Môn, gydag unrhyw golled o'r fath yn ergyd economaidd sylweddol.
Dywedodd Alan Roberts, swyddog undeb sydd wedi gweithio yn y ffatri ers bron i 46 mlynedd: "Oedd o'n dipyn o sioc, oeddan ni'n gwybod fod rwbath yn dod ond doeddan ni ddim yn disgwyl hyn.
"Mae'r lle ma 'di cael ei redeg lawr ers dipyn.... dwi'n teimlo reit flin i ddweud y gwir.
"Mae na lot wedi bod yma ers dros 40 mlynedd a does na neb wedi cael y parch i gael fwy o notice [na 45 diwrnod]."