2 Sisters: 730 o swyddi mewn ffatri yn Llangefni yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o swyddi yn y fantol mewn ffatri prosesu cig ar Ynys Môn ar ôl i'r cwmni gyhoeddi eu bwriad i gau'r safle.
Dywedodd cwmni 2 Sisters fod "yn rhaid gwneud newidiadau" oherwydd heriau'r sector cynhyrchu bwyd.
Mae'r ffatri yn Llangefni yn cyflogi 730 o weithwyr.
Mewn datganiad fore Mercher, dywedodd y cwmni nad yw'r ffatri bellach yn "gynaliadwy" yn dilyn adolygiad.
Bydd trafodaethau'n digwydd am y camau nesaf i'w gweithwyr cyn gwneud penderfyniad terfynol.
'Hen ac yn rhy fach'
"Mae'n hen, un o'n safleoedd lleiaf ac yn rhy fach i fod yn effeithlon," meddai'r datganiad.
"Mae'r gost o gynhyrchu yma yn uwch, a byddai gofyn am fuddsoddiad sylweddol i gyrraedd yr un safonau â'n ffatrïoedd eraill.
"Fe all ein cynnyrch gael ei greu'n fwy effeithlon mewn rhan arall o'n hystâd.
"Felly, ein cynnig yw dod â gwaith i ben yn y ffatri, gan roi'r safle dan risg o gau."
Ychwanegodd llefarydd nad yw'r penderfyniad yn "adlewyrchiad o'u gwaith caled a'u hymrwymiad parhaus" yn Llangefni.
"Ond mae gennym ddyletswydd i fod yn gystadleuol a gwarchod ein busnes yn ehangach - busnes y mae miloedd o bobl yn dibynnu arno."
Ychwanegodd y cwmni mai'r flaenoriaeth fydd ymghynghori'n "bwrpasol" gyda gweithwyr a'u cynrychiolwyr i "edrych ar yr holl opsiynau cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol am gau'r safle".
"Fe fydd yr opsiynau'n cynnwys cyfleoedd adleoli yn y rhanbarth gyda chymorth yr holl asiantaethau cymorth perthnasol, y tu mewn a'r tu allan i'r busnes."
Dywedodd y cwmni fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos colled o £95.5m yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Gorffennaf 2021 - a cholledion cyn hynny hefyd.
'Dwi'n teimlo'n reit flin'
Dywedodd Alan Roberts, swyddog undeb sydd wedi gweithio yn y ffatri ers bron i 46 mlynedd, fod y newydd yn syndod.
"Mae 'na amseroedd da a gwael wedi bod yma, ond dim byd mor wael a rŵan," meddai.
"Wnaethon nhw just announcio fo bora 'ma, ond obviously mae'n nhw'n gwybod ers dipyn fod o'n cau.
"Oedd o'n dipyn o sioc, oeddan ni'n gwybod fod rwbath yn dod ond doeddan ni ddim yn disgwyl hyn.
"Mae'r lle ma di cael ei redeg lawr ers dipyn.... dwi'n teimlo reit flin i ddweud y gwir.
"Mae 'na lot wedi bod yma ers dros 40 mlynedd a does na neb wedi cael y parch i gael fwy o notice [na 45 diwrnod].
"Tydi o'm yn dda i Sir Fôn, does na ddim gwaith yma nagoes? Mi fydd hi'n anodd i ni yma rŵan."
'Dim ynys wyliau a rhywle i ymddeol'
Dywedodd Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, fod y newyddion yn "drychinebus" ac yn "gwbl ddigalon".
Er y byddai'n ceisio trafod gyda'r cwmni i arbed swyddi, dywedodd nad oedd am "godi gobeithion pobl".
"Ni fyddaf yn derbyn mai dim ond ynys wyliau a rhywle i ymddeol yw ffawd Ynys Môn.
"Nid dilorni ar dwristiaeth yw hynny, sydd â rhan bwysig iawn i'w chwarae, ond mae cymuned sy'n gwbl ddibynnol ar hynny yn rhoi'r gorau i weithredu fel cymuned arferol."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bod swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r cwmni "i geisio deall goblygiadau'r datganiad ac i gynnig unrhyw gymorth i'r gweithlu".
Dywedodd Aelod Seneddol yr ynys, Virginia Crosbie, y byddai'n codi'r mater gyda'r Canghellor ac yn cefnogi sefydlu grŵp gorchwyl yn lleol.
Gan hefyd ei ddisgrifio fel "newyddion trychinebus", ychwanegodd: "Mae'n ymddangos ei fod wedi'i effeithio'n wael gan amrywiaeth o faterion gyda'r cynnydd mewn costau ynni ym mis Ebrill yn rhan fawr o'r penderfyniad er mwyn diogelu rhannau eraill o'r busnes."
Yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Rishi Sunak: "Rwy'n falch o ddweud bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau weithdrefnau ar waith i gefnogi cymunedau pan fydd sefyllfaoedd fel hyn yn codi a byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda hi [Ms Crosbie] i wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud ym mhob rhan o'r wlad - darparu swyddi da sy'n talu'n dda i bawb gan mai dyna'r ffordd orau o adeiladu bywyd hapus a diogel."
'Amser i lywodraethau ymhell o Fôn i gamu mewn'
Yn ôl arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU sicrhau rhagor o fuddsoddiad i'r ynys a chreu mwy o waith yn lleol.
"Dwi'n hynod o drist a siomedig, mae'r rhai sy'n gweithio yma yn cerdded i'w gwaith, yn beicio i'w gwaith - mae'r effaith ar y dref yn enfawr," meddai ar raglen Dros Ginio.
"Mae'r gweithlu ar draws yr ynys. Da ni gyd yn 'nabod rhywun sy'n gweithio yma, yn 'nabod eu teuluoedd ac mae'n anodd rhoi mewn i eiriau i ddweud y gwir.
"Mae'r teuluoedd yn gorfod cael y sgyrsiau anodd yna - da ni'n byw mewn cyfnod anodd, mae'r argyfwng costau byw yn anodd iawn ac mae bod yn y sefyllfa yn gwybod bod efallai eich gwaith yn diflannu yn drychinebus.
"Rŵan ydi'r amser i lywodraethau sydd ymhell o Ynys Môn i gamu mewn.
"Mae'r cwmni wedi dweud, effaith Brexit, costau ynni a chwyddiant ydi rheswm am hyn - penderfyniadau gwleidyddol oedd y rheiny. Rŵan ydi'r amser i ymateb.
"Mae colli 700 od o swyddi ar Ynys Môn - does gyno ni ddim 70,000 o bobl yma - mae hyn yn 1% o'r ynys y gweithlu yma, Mae'n anferthol.... does dim geiriau, da ni wedi laru."
'Dim rhybudd o gwbl'
Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite Cymru bod gan y cwmni "gwestiynau mawr i'w hateb", yn dilyn y cyhoeddiad.
"Mae'r cwmni wedi gollwng hwn ar y gweithlu heb ymgynghori a heb unrhyw rybudd o gwbl. Mae dweud bod ein haelodau wedi eu cythruddo gan y ffordd y cawsant eu trin yn danddatganiad.
"Bydd Unite yn brwydro i wrthdroi'r penderfyniad hwn. Mae trafodaethau brys wedi'u trefnu ar gyfer yfory ac mae gan 2 Sisters gwestiynau mawr i'w hateb.
"Bydd pob posibilrwydd o wrthdroi'r penderfyniad hwn yn cael ei archwilio gan yr undeb.
"Rydym yn bwriadu gorfodi'r cwmni i ailystyried a byddwn yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r ymgyrch i achub y ffatri. Ni allwn dderbyn y penderfyniad hwn."
'Un ergyd ar ôl y llall'
Hefyd yn siarad ar raglen Dros Ginio dywedodd un o gynghorwyr sir Llangefni, Nicola Roberts, fod y newydd am effeithio "cymaint o bobl" yn yr ardal.
"Mae hyn wedi dod allan o nunlla... mae'n sefyllfa drychinebus," meddai.
"Mae na dros 700 o bobl yn gweithio yno, mae hi 'di bod yn un ergyd ar ôl y llall ar yr ynys dros y blynyddoedd dwytha' ma, mae na lot o'r hogia 'di bod yn rhan o'r ergydion enfawr 'ma.
"Gafodd Cig Môn, safle Welsh Country Foods, Halal wedyn a rŵan sôn fod 2 Sisters am fynd... mae hi am fod yn ofnadwy i'r hogia 'ma ffendio gwaith yn rwla arall.
"Fel gwraig un oedd yn gweithio mewn lladd-dy fy hun, 'da ni 'di bod drwy'r broses, mae'n broses erchyll a dydi'r holl ymgynghoriadau 'ma ddim yn helpu.
"Y poen mwya' oedd gwybod bod mwyafrif y gweithlu wedi cael gwybod y diweddariad yma o'r cyfryngau cymdeithasol, dydi hynny ddim yn deimlad braf."
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb: "Rydym yn naturiol yn pryderu am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar ein cadwyni cyflenwi bwyd gan ein bod yn colli safle prosesu bwyd arall yng Nghymru.
"Bydd gan hyn ganlyniadau o ran cyfyngu ar filltiroedd bwyd a chynaliadwyedd ac mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r diffyg cyfleusterau prosesu bwyd yng Nghymru."
Ychwanegodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae hyn yn drychineb i'r Gymraeg a'i chymunedau fu'n dibynnu ar gwmnïau cyfalafol echdynnol.
"Cred y Gymdeithas fod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi busnesau cynhenid, ar hwyluso metrau cymunedol a chydweithredol, ac yn hollbwysig sicrhau perchnogaeth dros ein hadnoddau - hyn sy'n creu gwaith, a chadw yr elw yn lleol."
Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Busnes BBC Cymru
Dim ond mis yn ôl fe rybuddiodd prif weithredwr 2 Sisters fod y cwmni yn wynebu "bygythiad dirfodol" yn sgil costau anferth oedd yn taro'r busnes.
Heddiw mae gweithwyr Llangefni yn wynebu colli eu swyddi wrth i'r cwmni geisio ymdopi â'r sefyllfa.
Roedd adeilad 2 Sisters ar Ynys Môn yn rhy hen ac aneffeithlon, yn ôl y cwmni, i fod yn rhan o'r cynllun i ddiogelu ac ail-adeiladu busnes sydd wedi colli degau o filiynau o bunnau dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn Llangefni mi fydd cefnogaeth i'r gweithwyr, ond mae'r hinsawdd ariannol ehangach yn peri gofid.
Mae costau cynyddol yn effeithio ar bron bob busnes ar yr ynys.
Mae ansicrwydd o hyd am y cynlluniau i godi gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa. Ac mae 'na bryderon bob dydd am yr effaith ar yr economi a ddaw o'r penderfyniad i gau Pont y Borth am resymau diogelwch.
Mae'n ymddangos mai dyma ddiwedd y daith i weithwyr 2 Sisters ym Môn, ond mi allai'r penderfyniad hefyd gynrychioli bygythiad ehangach i economi'r ynys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2015