Kaylea Titford: 'Hanfodol dysgu gwersi o'r drasiedi'

Rhybudd: Gallai rhai delweddau yn y fideo beri gofid

Mae cynghorydd yn dweud bod angen "dysgu gwersi" o'r "drasiedi" yn dilyn marwolaeth merch 16 oed o'r Drenewydd.

Bu farw Kaylea Titford yn ei chartref ym mis Hydref 2020, ar ôl mynd yn ordew i raddau peryglus.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei bod hi'n byw mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer unrhyw anifail".

Mae ei thad Alun Titford, 45, bellach wedi ei ganfod yn euog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, a hynny wedi i'w mam Sarah Lloyd Jones, 40, bledio'n euog i'r un cyhuddiad.