Tad yn euog o ddynladdiad Kaylea Titford drwy esgeulustod

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma oedd yr olygfa yn ystafell wely Kaylea Titford wedi iddi gael ei chanfod

Rhybudd: Gallai rhai o'r delweddau yn y stori hon beri loes

Mae tad wedi cael ei ganfod yn euog o ddynladdiad ei ferch 16 oed a fu farw ar ôl mynd yn ordew i raddau peryglus.

Roedd Alun Titford, 45, wedi gwadu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, wedi marwolaeth ei ferch Kaylea yn ei chartref yn Y Drenewydd.

Roedd gan Kaylea Titford gyflwr spina bifida, a chanddi nifer o ddoluriau oedd wedi eu heintio pan fu farw ym mis Hydref 2020.

Roedd ei mam Sarah Lloyd Jones, 40, eisoes wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad o ddynladdiad.

Budreddi a chynrhon yn yr ystafell

Ar ôl dros bump awr o drafod, fe ddaeth y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i'w dyfarniad yn unfrydol.

Clywodd y llys fod Kaylea Titford yn byw mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer unrhyw anifail".

Cafodd ei chorff ei ganfod yn gorwedd ar ddillad gwely budr yn ei hystafell, gyda chynrhon (maggots) a phryfed arni.

Roedd fideo o gamera corff heddwas hefyd wedi dangos sbwriel a photeli o wrin ar y llawr ger gwely Kaylea.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kaylea wedi mynd yn ordew i raddau peryglus cyn ei marwolaeth

Fe wnaeth y patholegydd a edrychodd ar gorff Kaylea awgrymu nad oedd hi wedi cael ei 'molchi ers wythnosau lawer.

Oherwydd hynny, dywedodd yr erlyniad ei bod wedi marw oherwydd bod ei rhieni wedi methu yn eu dyletswydd i ofalu amdani, a bod hynny wedi arwain at risg amlwg a difrifol o farwolaeth.

Roedd gan Kaylea gyflwr spina bifida, gan olygu nad oedd ganddi lawer o deimlad o ganol ei chorff i lawr, ac roedd hyn yn cyfyngu ar ei symudedd.

Ond er hynny clywodd y llys ei bod hi'n arfer bod yn ferch "annibynnol" iawn, ac yn gallu mynd o gwmpas ar ei phen ei hun yn ei chadair olwyn.

Roedd yn mwynhau chwaraeon fel pêl-fasged gan ddefnyddio cadair olwyn, ond wrth iddi fynd yn hŷn dechreuodd fagu mwy o bwysau.

Ffynhonnell y llun, Andrew Price/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyfaddefodd Alun Titford yn ystod yr achos llys nad oedd wedi bod yn "dad da" i'w ferch

'Ddim yn dad da'

Wrth i gyfnod clo'r pandemig olygu nad oedd y rhan fwyaf o blant yn mynd i'r ysgol, clywodd y llys fod staff yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd wedi cysylltu gyda mam Kaylea i holi am les y ferch.

Roedd cofnodion o'r galwadau yn dangos bod staff bob amser yn delio â Sarah Lloyd Jones ac nid Alun Titford.

Clywodd y llys hefyd bod Sarah Lloyd Jones yn cael "trafferth" cefnogi Kaylea gartref, wrth hefyd wneud ei swydd fel gofalwr, tra bod Alun Titford yn gweithio oriau hir i gwmni symud dodrefn.

Hyd yn oed wedi i'r ysgol ailagor, roedd mam Kaylea yn egluro ei habsenoldebau drwy ddweud bod ganddi annwyd, ac y byddai'n dychwelyd yn fuan.

Disgrifiad o’r llun,

Yr ystafell wely ble cafwyd hyd i gorff Kaylea

Fe gyfaddefodd Alun Titford yn ei gyfweliad gyda'r heddlu nad oedd "yn dad da iawn", ac mai ei wraig oedd yn gofalu am Kaylea ac yn gwneud popeth o gwmpas y tŷ.

Ond er ei fod yn byw yn yr un tŷ, dywedodd Titford nad oedd yn ymwybodol o amodau byw ei ferch na'r dirywiad yn ei chyflwr corfforol, am mai nid ef oedd yn gofalu amdani.

Dywedodd nad oedd yn cofio ei gweld allan o'r gwely ers cyn dechrau'r cyfnod clo, chwe mis ynghynt.

Ychwanegodd y byddai'n mynd i weld Kaylea yn ei hystafell tua thair gwaith yr wythnos, ond nad oedd wedi bod i mewn yno am bron i fis cyn ei marwolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynrhon eu canfod yn ystafell wely Kaylea wedi ei marwolaeth

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu wedi iddo gael ei arestio, cafodd Mr Titford ei holi pwy oedd ar fai fod Kaylea wedi dirywio i'r fath gyflwr, ac atebodd "Sarah a minnau".

Yn y llys, dywedodd ei fod yn dal i gytuno gyda hynny, a'i fod yn teimlo'n wael am wneud "dim" i helpu ei bartner i ofalu am Kaylea.

Ar y diwrnod pan gafwyd hyd i gorff Kaylea, cafodd galwad frys 999 ei wneud gan fam Alun Titford, yn dweud ei bod wedi derbyn galwad gan ei mab yn dweud fod Kaylea yn "oer a ddim yn deffro".

Fe wnaeth cysylltydd ffôn ofyn am y cyfeiriad a manylion cyswllt ar gyfer y tŷ, cyn ffonio Alun Titford i ofyn am ragor o fanylion.

Mewn rhan o drawsgrifiad yr alwad honno, mae Alun Titford yn dweud ei fod yn credu fod ei ferch wedi marw, ond nad yw'n gallu ei symud.

Cysylltydd ffôn: Ydy hi'n anadlu?

Alun Titford: Nac ydy.

Cysylltydd ffôn: Ydych chi'n gallu ei deffro hi?

Alun Titford: Kaylea, helo. Nac ydw, mae hi wedi marw.

Cysylltydd ffôn: Ydych chi wrth ei hymyl? Oes modd i chi ei chael hi ar y llawr?

Alun Titford: Na, mae hi'n rhy fawr, mae hi'n ordew.

Cysylltydd ffôn: Oes rhywun arall all eich helpu?

Alun Titford: Mae gen i fy mab ond mae o fyny'r grisiau yn ei wely.

Cysylltydd ffôn: Iawn, mae wir angen i ni ei chael hi ar y llawr, oes unrhyw un allai'ch helpu?

Alun Titford: Fydden ni byth yn ei chael hi yn ôl i fyny.

Cysylltydd ffôn: Iawn, trïwch ei gosod hi ar y llawr.

Alun Titford: Alla i ddim, alla i ddim ei wneud o, alla i ddim ei chyffwrdd sori.

Ffynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mam Kaylea, Sarah Lloyd Jones, eisoes wedi pledio'n euog i ddynladdiad

Mae'r alwad wedyn yn parhau, wrth i'r cysylltydd ffôn geisio dweud wrth Alun Titford sut i osod Kaylea ar y llawr.

Yn dilyn hynny mae parafeddygon yn cyrraedd, ac fe glywir llais gwahanol ar yr alwad yn dweud: "Mae'n ddrwg gen i, mae hi wedi mynd, ac ers peth amser hefyd."

Yn fuan wedyn, gyda'r parafeddygon yn delio gyda'r digwyddiad, mae'r alwad yn dod i ben.

'Achos anarferol o ofidus'

Bydd Alun Titford nawr yn cael ei ddedfrydu gyda'i bartner Sarah Lloyd-Jones ar 1 Mawrth yn Llys y Goron Abertawe.

Yn y cyfamser, mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Alun Titford yn gadael y llys brynhawn Mawrth

"Does dim amheuaeth bod yr achos hwn yn mynd heibio'r trothwy carcharu," meddai'r barnwr Mr Ustus Griffiths.

Ar ôl clywed dyfarniad y rheithgor diolchodd y barnwr iddyn nhw am eu gwasanaeth dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd y barnwr wrth y byddai'n eu heithrio nhw rhag gwasanaethu ar reithgor am 10 mlynedd, gan ddweud bod "lot o dystiolaeth anodd wedi ei gyflwyno o flaen y llys, gan gynnwys gwybodaeth gan lawer o arbenigwyr".

Ychwanegodd: "Heb os, roedd y pwnc dan sylw yn anarferol o ofidus."

Pynciau cysylltiedig