Tu ôl i'r llen: Diwrnod gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Mae gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke wedi treulio diwrnod gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn ne-ddwyrain Cymru.
"Mae pobl sâl yn dod i'r ysbyty weithiau, a s'gen i nunlle i'w gweld nhw," medd Rhiannon Lewis, sy'n feddyg yn uned frys Ysbyty Athrofaol y Faenor ger Cwmbrân.
"Dwi 'di gweld pobl mewn cypyrddau weithiau... achos bod dim gwelyau ar gael a phobl wedi bod yn aros yma dau, dri, pedwar diwrnod achos does dim lle yn yr ysbyty iddyn nhw."
Fideo gan Tomos Lewis
DARLLENWCH: Profiad ysbyty yn ystod 'gaeaf caletaf' y GIG