Profiad ysbyty yn ystod y 'gaeaf caletaf' yn hanes y GIG
- Cyhoeddwyd
Os oes unrhyw un yn ymgorffori'r heriau aruthrol mae'r gwasanaeth iechyd wedi'u hwynebu y gaeaf hwn, yna efallai mai Roger Ford yw hwnnw.
Rwy'n cwrdd â Roger tra'i fod yn syllu mas dros Gasnewydd - dinas sydd wedi bod yn gartref iddo am dros 20 mlynedd.
"Dacw'r Bont Gludo draw fanna," medd Roger wrtha i.
"Fe fyddai'n llawer yn well gen i fod mas 'na mewn fan hyn."
Mae Roger yn syllu drwy ffenest ger ei wely ar bumed llawr Ysbyty Brenhinol Gwent.
Ar ôl dod yma i gael triniaeth am haint, mae Roger wedi bod ar y ward am dair wythnos.
Er ei fod bellach yn ddigon iach yn feddygol i fynd adre, ac yn ysu i wneud hynny, dyw hynny ddim yn bosib.
Mae gan Roger barlys yr ymennydd, ac ynghlwm ag effaith ei salwch diweddar, er mwyn iddo fod yn saff pan fydd adre, mae angen cymorth gofalwyr arno.
Tan fod hynny'n cael ei drefnu, mae'n sownd fan hyn mewn ward heb unrhyw deledu.
Mae Roger yn gwylio beth bynnag all ffeindio ar ei ffôn.
"Does gen i ddim clem pryd fydda i'n gallu gadael," meddai. "Ma' rhaid i fi aros am becyn gofal.
"Rwy'n dal i wenu, ond mae'r sefyllfa yn fy ngwneud i ychydig yn drist.
"Rwy'n cadw fy mysedd wedi'u croesi yn barhaol!"
Ond nid Roger yw'r unig un.
"Mae'n sefyllfa gyffredin, 'da ni'n gweld nifer fawr o bobl fel 'na," medd y meddyg ymgynghorol Paul Mizen, sy'n gweithio yn yr ysbyty.
"Mae'n rhwystredig gweld hynny gan ein bod ni am weld cleifion yn gyflym a chael nhw adre, ond pan dyw hynny ddim yn digwydd mae'n anodd i'r cleifion, i'r teuluoedd ac i ni.
"Os y'ch chi adref y'ch chi'n gallu cerdded o gwmpas y tŷ, gwneud bwyd, gwneud y pethau chi'n gyfarwydd â nhw.
"Yn yr ysbyty mae hynny'n fwy anodd, a dyw cleifion ddim yn bwyta digon a'n gallu colli pwysau. Ar ôl hynny, weithiau mae'n anoddach eu cael nhw adref."
Mae'r anallu hwnnw i ryddhau rhai cleifion o'r ysbyty yn gallu cael effaith fawr nid yn unig ar y cleifion unigol, ond ar system y gwasanaeth iechyd cyfan.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn unig, cleifion sydd mewn sefyllfa debyg i Roger sy'n llenwi tua 350 o welyau - tua un o bob tri o holl welyau'r bwrdd iechyd.
Er gwaetha' sawl ymdrech i leihau'r oedi cyn gallu rhyddhau cleifion, mae prinder gofal a gofalwyr yn y gymuned yn aml yn gwneud hynny'n anodd - a chyfrifoldeb cynghorau lleol i raddau helaeth yw hynny.
'Rhaid i ni 'neud yn well'
"Ry'n ni'n siarad am hynny [diffyg llif cleifion drwy'r system] yn aml. Ma' fe'n ein brifo ni a dyw e ddim yn saff," meddai Dr Mizen.
"Mae'n rhaid i ni 'neud yn well dros y system i gyd.
"Dwi erioed wedi gweld cymaint o risg ag y'n ni 'di gweld y gaeaf yma."
Ond pam fod hyn yn creu gymaint o risg yn yr ysbytai?
Yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ger Cwmbrân, chwe milltir i'r gogledd o Ysbyty Brenhinol Gwent, mae un o unedau brys prysuraf Cymru.
Ar adeg fy ymweliad dywedodd staff fod y pwysau yn llai na'r arfer.
"Dyw hi dim rhy ddrwg heddiw," medd un meddyg wrtha i.
Eto i gyd mae cyfanswm o 68 claf yn yr uned heddiw, bron pob gwely yn llawn a phobl yn disgwyl cael eu trosglwyddo ymlaen i'r wardiau.
Mae ystafell aros yr uned frys hefyd yn llawn, a thua hanner dwsin o ambiwlansys tu fas.
'Gweithio'n galed dan amgylchiadau anodd'
Yn yr uned fe ges i gwrdd â Frances Evans, sy'n 85 oed ac yn byw yn Nhredegar.
Mae hi'n cael ei hasesu ar ôl cael anaf ar ei brest. Ddoe, fe dreuliodd hi wyth awr yng nghefn ambiwlans tu fas.
"Roeddwn i yn yr ambiwlans o 10:00 i 18:00, ac roedd yn rhaid iddyn nhw ddod â fi mewn a mas o'r uned am brofion - roedd pob gwely yn llawn," meddai.
Er ei phrofiad, mae Frances yn canmol ymdrechion y staff.
"Maen nhw'n gweithio mor galed dan amgylchiadau anodd iawn. Ma' gyda nhw lawer iawn gormod o waith.
"Rwy'n poeni weithiau fod rhai yn cymryd mantais o'r gwasanaeth iechyd."
'Dwi 'di gweld pobl mewn cypyrddau'
Felly, yr hyn sy'n amlwg yw bod oedi mawr yn digwydd hyd yn oed ar adegau lle mae'r pwysau'n llai difrifol.
Ond y gwirionedd yw bod yr uned yma wedi bod dan ei sang yn aml iawn - yn amlach nag erioed y gaeaf hwn - yn ôl y staff sy'n gweithio yma.
"Mae pobl sâl yn dod i'r ysbyty weithiau, a s'gen i nunlle i'w gweld nhw," medd Rhiannon Lewis, sy'n feddyg yn yr uned.
"Dwi 'di gweld pobl mewn cypyrddau weithiau... achos bod dim gwelyau ar gael a phobl wedi bod yn aros yma dau, dri, pedwar diwrnod achos does dim lle yn yr ysbyty iddyn nhw.
"Mae sifftiau fel yna yn dod yn fwyfwy normal, lle mae pethau yn arbennig o intense.
"Un o'r profiadau gwaethaf oedd galw claf i mewn oedd wedi bod yn yr ystafell aros am 20 awr - rhywun yn ei 80au oedd wedi bod yn eistedd ar gadair galed am 20 awr.
"Ar ôl i fi eu galw nhw, dyma nhw'n beichio crio oherwydd bo' nhw'n llawn emosiwn.
"Dwi'n gorfod dechrau bron bob sgwrs gyda chleifion yn ymddiheuro, a ma' hynny dros amser yn effeithio arnoch chi."
'Rhoi gwên ar eu hwyneb'
Er hynny, yn ôl Dr Lewis, mae staff wastad yn ceisio gwneud y gorau gallan nhw dros y cleifion.
Yn ystod fy ymweliad dwi'n cael blas o hynny, gan weld parafeddygon a nyrsys yn rhuthro i ymateb ar ôl i gar gyrraedd drysau'r uned frys yn cludo mam sydd newydd roi genedigaeth.
O fewn chwinciad mae'r fam a'r babi yn cael gofal gan feddygon, nyrsys a bydwragedd.
Ychydig oriau'n ddiweddarach, mae Andrea ac Adam Sheppard a'r babi newydd yn barod i fynd adre.
Achosion fel yna sy'n cymell Dr Lewis, fel meddyg iau, i barhau i ddilyn gyrfa fel meddyg brys, er gwaetha'r straen a dagrau ar adegau.
"Mae'n wobr fawr gallu helpu pobl ar ddechre eu siwrne nhw yn yr ysbyty, rhoi gwên ar eu hwyneb nhw, gwrando arnyn nhw, 'neud iddyn nhw deimlo'n bwysig," meddai.
"Ond ma' hynny'n dod yn fwyfwy anodd oherwydd y pwysau sydd arnom ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023