Marwolaeth fferm Aberhosan yn 'sioc ac yn fraw'
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ffermwr a fu farw ar ôl damwain ar fferm ger Machynlleth ddydd Gwener.
Credir bod Iwan Evans wedi marw o'i anafiadau wedi digwyddiad ar fferm Cleiriau Isaf yn Nyffryn Dulas ger Aberhosan.
Fe gafodd mab Iwan Evans, Dafydd Evans, hefyd ei anafu yn y digwyddiad ac mae'n derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Stoke.
Dywed y cynghorydd sir, Elwyn Vaughan, bod y newyddion yn sioc ac yn fraw i'r ardal gyfan.