Aberhosan: Ffermwr wedi’i ladd a mab wedi’i anafu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cynghorydd Elwyn Vaughan: 'Y newyddion yn dristwch i'r gymuned amaethyddol'

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ffermwr a fu farw ar ôl damwain ar fferm ger Machynlleth ddydd Gwener.

Bu farw Iwan Evans o'i anafiadau wedi digwyddiad ar fferm Cleiriau Isaf yn Nyffryn Dulas ger Aberhosan.

Cafodd ei fab, Dafydd Evans - a gredir i fod yn ei 40au - hefyd ei anafu'n ddifrifol yn y ddamwain.

Mae'n derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Stoke, ond ni chredir fod ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau eu bod wedi ymweld â fferm yn yr ardal ddydd Sadwrn a bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r hyn ddigwyddodd.

Mae Dafydd Evans yn aelod o Gôr Meibion Machynlleth ac fe gafodd cyngerdd, oedd yn cynnwys perfformiad gan y côr yn Ninas Mawddwy nos Sadwrn, ei ohirio fel arwydd o barch.

'Yr ardal mewn sioc'

Dywedodd Aled Griffiths, asiant o Undeb NFU Cymru ac sydd hefyd yn aelod o Gôr Meibion Machynlleth, "nad oedd dewis arall ond gohirio'r cyngerdd yn llwyr".

"Mae'n sefyllfa drist iawn, ac mae'r ardal gyfan mewn sioc. Mae'r teulu yn un poblogaidd iawn," meddai Aled Griffiths.

"Doedd 'na ddim dewis ond gohirio y cyngerdd, oherwydd parch i Dafydd ond hefyd gan fod y teulu yn galaru am Iwan.

"Fyddai neb ar eu gorau yn y côr a fyddai fo ddim ychwaith yn deg i bobl Dinas Mawddwy.

"Mae Dafydd 'di bod yn aelod selog o'r côr ers blynyddoedd a 'di o byth yn colli ymarfer, ac mae'n aelod poblogaidd iawn.

"Mae'n sefyllfa drist ond mae'n dangos pa mor beryg ydy'r diwydiant amaeth - dangos bod damweiniau fel hyn yn medru digwydd.

"Mae Dafydd yn derbyn triniaeth yn Stoke a thra bo'r teulu yn obeithiol am Dafydd maen nhw yn galaru hefyd.

"Mae'r ardal mewn sioc ac mae aelodau y côr i gyd mewn sioc."

'Tristwch i'r gymuned amaethyddol'

"Mae'r newyddion yn sioc ac yn fraw," medd y cynghorydd sir, Elwyn Vaughan.

"Mae nhw'n deulu amaethyddol a lleol ac yn weithgar yn lleol ac wrth gwrs Dafydd y mab yn aelod o'r cyngor cymuned - yn weithgar yn ei gymuned ac yn aelod o gôr Machynlleth ac felly'n adnabyddus iawn drwy'r ardal.

"Mae'n sioc ac yn fraw clywed y newyddion ac yn dristwch i'r gymuned amaethyddol gyfan wrth gwrs sydd yn glòs ac yn ddi-os fydd yn rhoi cefn i'r teulu yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf."

Mae cais wedi cael ei roi i Heddlu Dyfed-Powys am sylw.

Pynciau cysylltiedig