Owens: 'Ni'n gwbl barod i chwarae yn erbyn Lloegr'
Mae Ken Owens yn dweud fod chwaraewyr Cymru wedi bod yn "broffesiynol iawn" dros y dyddiau diwethaf, wrth i'r trafodaethau dros gytundebau barhau.
Dywedodd capten Cymru y byddai'r gêm Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn nawr yn mynd yn ei blaen, yn dilyn cytundeb rhwng y chwaraewyr a phenaethiaid rygbi.
Roedd y chwaraewyr wedi rhoi nes 22 Chwefror i ddatrys materion yn ymwneud â chytundebau, yn ogystal â phryderon eraill.
"Mae'r bois wedi troi lan, wedi paratoi, a ni'n gwbl barod i chwarae ddydd Sadwrn yn erbyn Lloegr," meddai.