Rygbi: Gêm Cymru v Lloegr i fynd yn ei blaen ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Bydd y gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr ddydd Sadwrn yn mynd yn ei blaen, yn dilyn trafodaethau pellach rhwng y chwaraewyr a phenaethiaid rygbi.
Roedd y chwaraewyr wedi rhoi tan 22 Chwefror i ddatrys materion yn ymwneud â chytundebau, yn ogystal â phryderon eraill.
Ond er nad yw manylion llawn y datrysiad terfynol wedi eu cadarnhau eto, dywedodd y capten Ken Owens y byddai'r chwaraewyr yn chwarae ddydd Sadwrn.
Roedd amcangyfrif y gallai peidio chwarae'r gêm gostio tua £12m i Undeb Rygbi Cymru, gan olygu mwy fyth o drafferthion i sefydliad sydd eisoes wedi bod dan bwysau'n ddiweddar.
Trafodaethau drwy'r dydd
Wrth siarad y tu allan i Westy'r Fro brynhawn Mercher, dywedodd Owens fod y chwaraewyr wedi bod yn "broffesiynol iawn" dros y dyddiau diwethaf wrth i'r trafodaethau barhau.
"Mae'r bois wedi troi lan, wedi paratoi, a ni'n gwbl barod i chwarae ddydd Sadwrn yn erbyn Lloegr," meddai.
Ychwanegodd y capten ei bod hi'n "rhwystredig" fod yr anghydfod wedi mynd ymlaen mor hir, ond fod angen i'r chwaraewyr "wneud safiad" ac mai'r ffordd orau ymlaen oedd "gyda'n gilydd".
"Nid jyst y bois yng ngharfan Cymru sydd wedi cael eu heffeithio, weithiau mae pobl yn anghofio am y chwaraewyr rhanbarthol a'r chwaraewyr ifanc."
Ychwanegodd prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC), Nigel Walker fod "sgyrsiau cadarn" wedi bod.
"Ddylai'r PRB ddim fod wedi rhoi nhw [y chwaraewyr] yn y safle yma," meddai.
"Mae nifer o bethau nawr mewn lle er mwyn sicrhau bod y ddeialog yn parhau."
Bydd Warren Gatland nawr yn enwi ei dîm ddydd Iau ar gyfer yr ornest - ar ôl gohirio cyhoeddiad ddydd Mawrth oherwydd yr ansicrwydd.
Datgelodd y prif hyfforddwr fod sesiwn ymarfer brynhawn ddydd Mawrth wedi cael ei chanslo, er mwyn gadael i chwaraewyr barhau gyda'r trafodaethau.
Cafwyd cyfarfod fore Mercher o'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB), sy'n rhedeg y gêm broffesiynol yng Nghymru ac yn cynnwys cynrychiolwyr y pedwar rhanbarth - Caerdydd, y Gweilch, y Dreigiau a'r Scarlets.
Yna fe wnaeth cadeirydd PRB, prif weithredwr URC Nigel Walker, a phenaethiaid y rhanbarthau, gyfarfod gyda dros 100 o chwaraewyr proffesiynol Cymru yng Ngwesty'r Fro, sef canolfan ymarfer tîm Cymru.
Cafwyd cyfarfod pellach eto wedyn rhwng Walker, Wall, bwrdd URC, a'r capten Ken Owens.
Roedd y chwaraewyr yn galw am:
Gynrychiolaeth mewn cyfarfodydd o'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB);
Gael gwared ar y rheol 60 cap - sy'n golygu na fydd rhywun sy'n chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i'r tîm cenedlaethol os nad ydyw eisoes wedi ennill 60 cap;
Gael gwared o'r syniad o gytundebau lle byddai 80% yn gyflog sefydlog ac 20% yn seiliedig ar fonysau.
Mae'r cyfaddawd sydd wedi ei gyrraedd bellach yn cynnwys gostwng y rheol 60 cap i 25.
Bydd chwaraewyr hefyd yn cael y dewis rhwng cytundeb sefydlog, neu un sy'n cynnwys rhywfaint o amrywiaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023