Cleifion Betsi Cadwaladr 'ddim yn cael cyfiawnder'
Wrth i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddychwelyd i fesurau arbennig unwaith eto, mae teulu un claf yn y gogledd wedi mynegi pryder dros y gwasanaeth fasgiwlar a'r gofal a roddwyd i'w tad.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe aeth Robin Jones o Fangor at ei feddyg teulu gyda briwiau ar ei droed.
Doedd neb yn gwybod beth oedd yn bod, hyd yn oed ar ôl iddo fynd yn ôl ac ymlaen rhwng Ysbytai Gwynedd a Glan Clwyd am fisoedd rhwng yr adrannau rhewmatoleg a fasgiwlar.
Ar ôl cael llond bol o beidio cael atebion, fe gysylltodd ei ferch, Llinos Hughes, gyda Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a'r Gweinidog Iechyd i gwyno.
Dim ond ers hynny mae'r teulu wedi gweld gwelliant.
"Dwi'n fodlon cwffio dros fy nhad, ond mae 'na gymaint o bobl sydd ddim yn yr un sefyllfa â fi," meddai Llinos.
"Dwi jyst yn teimlo bod pobl ddim yn cael cyfiawnder allan o Betsi Cadwaladr."
Fe gadarnhaodd Dr Jim McGuigan, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol y bwrdd wrth BBC Cymru eu bod wedi cysylltu â'r teulu i drafod eu pryderon.
"Mae'r rhain yn faterion yr ydym wedi bod yn gweithio'n galed i'w datrys, trwy well ymarferion gweithio a recriwtio i swyddi nyrsio arbenigol," meddai Dr McGuigan.
"Mae hyn yn helpu i ddarparu'r parhad mewn gofal y mae ein cleifion yn ei haeddu. Tra rydym wedi gweld gwelliannau, rydym yn cydnabod bod llawer i'w wneud o hyd."
Ychwanegodd bod dros £5m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth fasgwlaidd, a bydd rhywfaint ohono'n helpu i sefydlu llwybr gofal traed diabetig ar draws y rhwydwaith.
Bydd hynny, yn ôl y bwrdd, yn sicrhau'r un safonau uchel ar gyfer cleifion ar draws gogledd Cymru.