Helynt Betsi Cadwaladr yn 'drychinebus ac yn warthus'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Eluned Morgan: 'Roedd rhaid gweithredu wedi adroddiad damniol'

Mae'r gweinidog iechyd wedi'i beirniadu am ofyn i aelodau annibynnol o fwrdd iechyd y gogledd i ymddiswyddo.

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi o dan fesurau arbennig ddydd Llun yn sgil adroddiad damniol yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cadeirydd, is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y bwrdd "wedi cytuno i gamu o'r neilltu".

Mae'r gweinidog iechyd, Eluned Morgan wedi amddiffyn ei gweithredoedd, gan ddweud fod ganddi "bryderon am y bwrdd iechyd ers cryn amser".

Ond wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, fe wnaeth Eleanor Burnham, cyn-gadeirydd ar gyngor iechyd cymuned yn y gogledd, gwestiynu'r penderfyniad i gael gwared ar yr aelodau.

"Beth ydy gwerth cael gwared ar y bobl annibynnol sydd wedi bod yn craffu ac yn sgwennu at y gweinidog a'r prif weinidog?

"Mae'r holl beth yn drychinebus ac yn warthus," meddai'r cyn-Aelod Cynulliad [Senedd bellach] dros Ogledd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Eleanor Burnham
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleanor Burnham yn synnu nad oes gan Lywodraeth Cymru yr hawl i ddiswyddo y bwrdd gweithredol

"Dwi wedi cael fy synnu gwrando ar y gweinidog yn ddiweddar… bod ganddyn nhw ddim awdurdod i ymddiswyddo [sic] y bwrdd gweithredol.

"Wel ar ôl chwarter canrif 'se ni wedi meddwl ar ôl trafferthion a shenanigans sydd wedi bod dylai bod nhw wedi 'neud yn siŵr bod nhw yn gallu 'neud hyn."

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei arwain gan grŵp o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau bwrdd annibynnol.

Mewn llythyr i Lywodraeth Cymru a gwleidyddion eraill ddydd Llun, dywedodd aelodau annibynnol y bwrdd: "Rydym yn ysgrifennu i fynegi ein pryderon dwys am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru yn dilyn y cyfarfod gyda'r Gweinidog y bore yma, pan gawsom ein gadael â dim opsiwn ond ymddiswyddo fel aelodau annibynnol yn syth.

"Does gennym ni ddim ffydd yng ngallu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa."

'Wedi penodi yn anghywir'

Dywedodd Eluned Morgan na allai aelodau annibynnol "roi o'r neilltu" y cyfrifoldeb am sut mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg.

"Roedd gennym bryderon am y bwrdd iechyd ers cryn amser," meddai, "ond yr hyn a berodd i ni weithredu oedd adroddiad damniol Archwilio Cymru."

Ychwanegodd Ms Morgan ar Dros Frecwast: "Mae'n amlwg bo' ni wedi cael penodiadau o ran staffio yn anghywir ac mae'r arweinyddiaeth wedi bod yn broblem.

"Y cam nesaf fydd i'r cadeirydd newydd i wneud y penderfyniadau fydd angen eu gwneud er mwyn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru oedd yn gwbl ddamniol ynglŷn â'r ffordd yr oedd rhai o'r executives yn bihafio.

"Does dim hawl gen i fel gweinidog i ymyrryd yn rheolaeth y bwrdd yn uniongyrchol. Does dim pwerau gen i i wneud hynny.

"Y pŵer sydd gen i yw i roi cadeirydd mewn lle a newid rhai o'r aelodau a'r tîm ar y bwrdd."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Dyfed Edwards - cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd - yw cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

"Does gen i ddim hawl i ymyrryd fel gweinidog yn y ffordd y mae'r bwrdd yn cael ei redeg yn uniongyrchol. Job y cadeirydd a'r bwrdd yw hynny.

"Be fyddwn ni'n 'neud nawr yn ystod y cyfnod nesaf yw sicrhau bod y bobl iawn 'da ni o gwmpas y bwrdd er mwyn llywio'r bwrdd i'r dyfodol," ychwanegodd Ms Morgan.

Dyfed Edwards sydd wedi'i benodi fel cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones yn aelodau annibynnol interim o'r bwrdd.

'Denu pobl o lefydd eraill'

"Dyfed Edwards - cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd - fydd nawr yn llywio y bwrdd iechyd," ychwanegodd Eluned Morgan.

"Yn amlwg rhaid i ni feddwl sut 'da ni'n mynd i droi pethe rownd yn y bwrdd iechyd fel bod hi'n haws denu pobl o lefydd eraill i ddod i wneud y gwaith angenrheidiol sydd angen ei wneud er lles pobl y gogledd.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i fi ganolbwyntio ar be sy' angen ei wneud yn y gogledd - hynny yw bod ni'n gweld gwell arweinyddiaeth, bod ni'n gweld bwrdd sy'n fwy effeithiol, bod ni'n newid diwylliant y bwrdd a bod ni'n sicrhau bod ni'n canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion.

"Dyna be' dwi'n ceisio ei wneud gyda'r ymateb yma o Lywodraeth Cymru."

Roedd Ms Morgan hefyd yn awyddus i bwysleisio "bod miloedd o bobl yn ddyddiol yn cael help arbennig gan staff sy'n gweithio i Fwrdd Betsi Cadwaladr".