Achos marwolaeth Kaylea Titford 'yn un difrifol ac erchyll'

Roedd achos marwolaeth Kaylea Titford "yn un difrifol ac erchyll mewn sawl ffordd", yn ôl Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru.

Bu farw'r ferch 16 oed yn ei chartref yn Y Drenewydd ar ôl mynd yn ordew i raddau peryglus, ac mae ei rhieni bellach wedi eu dedfrydu i gyfanswm o dros 13 mlynedd o garchar am ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol.

Dywedodd Iwan Jenkins o'r CPS fod camdrin ac esgeuluso plant "yn weddol amlwg yn ein cymdeithas ni, ond rwy'n falch i ddweud bod hynny ddim yn gorffen lan gyda marwolaeth mewn sawl achos".

"Yn anffodus yn yr achos yma dyna beth oedd y canlyniad - canlyniad oherwydd bod esgeulustod y rhieni mor wael," meddai.

Ychwanegodd bod achosion o'r fath yn gallu bod yn heriol i swyddogion ddelio â nhw.

"Mae yna deimladau wrth gwrs ynglŷn â'r achos, ond mae'n rhaid defnyddio ein profiad i fod yn broffesiynol ynglŷn â'r achosion yma a gwneud yn siŵr bod gwaith da yn cael ei gyflawni," meddai.