Kaylea Titford: Cyfanswm o 13 mlynedd o garchar i'w rhieni
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai.
Mae rhieni Kaylea Titford wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o dros 13 mlynedd o garchar am ddynladdiad eu merch drwy esgeulustod difrifol.
Cafodd Alun Titford, 45, ei ganfod yn euog o ddynladdiad wedi i'w ferch 16 oed farw yn ei chartref yn Y Drenewydd ar ôl mynd yn ordew i raddau peryglus.
Roedd ei mam Sarah Lloyd-Jones, 40, eisoes wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad o ddynladdiad.
Cafodd Titford ddedfryd o saith mlynedd a chwe mis yn y carchar, ac fe gafodd Lloyd-Jones ddedfryd o chwe blynedd.
Roedd gan Kaylea Titford gyflwr spina bifida, a chanddi nifer o ddoluriau oedd wedi eu heintio pan fu farw ym mis Hydref 2020.
Clywodd y llys bod y ferch yn byw mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer unrhyw anifail", a bod ei chorff wedi ei ganfod yn gorwedd ar ddillad gwely budr, gyda chynrhon (maggots) a phryfed arni.
Wrth ddedfrydu'r ddau yn Llys y Goron yr Abertawe dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffiths fod yr esgeulustod yn un parhaus.
"Roedd yn esgeulustod o blentyn oedd yn gwbl ddibynnol ac yn fregus," meddai.
"Roedd y cyfnod yn un hir o esgeulustod troseddol... drwy'r cyfnod clo.
"Roedd hwn yn achos arswydus - achos o esgeulustod parhaus wnaeth arwain at farwolaeth plentyn oedd yn gwbl ddibynnol, yn gaeth i'r gwely, ac yn anabl a hynny drwy law ei rhieni.
"Ac nid yn unig y farwolaeth - does dim amheuaeth gennyf fod y dioddefaint a'r dirywiad cyn iddi farw yn brofiad hir a sylweddol."
Ychwanegodd y barnwr fod yna hanes o fethu â mynychu apwyntiadau, a dywedodd nad oedd y rhieni wedi gwneud defnydd o'r help oedd ar gael ac yn cael ei gynnig.
'Y ddau yr un mor gyfrifol'
Dywedodd Mr Ustus Griffiths nad oedd yn derbyn fod Alun Titford o'r farn fod y fam yn edrych ar ôl Kaylea.
Yn amlwg, meddai, doedd y ferch ddim yn cael yr help oedd ei angen.
"Roedd hi wedi erfyn am help ei thad," meddai. "Ond ni chafodd hi'r help. Roedd ei esgeulustod ef yn egeulustod llwyr."
Ychwanegodd y barnwr fod Alun Titford yn aros ei ystafell yn gwylio teledu yn hytrach na helpu.
Dywedodd fod dyletswydd ar ei mam, Sarah Lloyd-Jones, hefyd, "i ofyn am help ac i dderbyn yr help oedd yn cael ei gynnig".
"Nid wyf yn derbyn fod un rhiant yn gallu hawlio llai o gyfrifoldeb na'r llall am ofal Kaylea," meddai. "Mae'r ddau'r un mor gyfrifol."
Cafodd Lloyd-Jones ddedfryd lai o garchar, am iddi bledio'n euog i'r cyhuddiad yn ei herbyn.
Dywedodd y barnwr nad oedd y rhieni wedi cymryd unrhyw gamau i reoli pwysau ei merch.
Roedd ei phwysau, meddai, wedi cynyddu o 16 stôn 12 pwys pan yn 13 oed ym mis Mawrth 2018, i 22 stôn 13 pwys erbyn iddi farw.
'Methu yn eu dyletswydd'
Clywodd y llys nad oedd Kaylea Titford wedi defnyddio'r tŷ bach na chael cawod am rai misoedd.
Cafodd poteli o wrin eu canfod yn ei hystafell wely, ac roedd carthion dynol ar lawr ei hystafell ymolchi.
Dywedodd fod cyflwr ei chorff mor wael fel bod hyn wedi achosi i swyddogion y gwasanaethau brys gafodd eu galw i'r tŷ i gyfogi.
"Doedd y cyfnod olaf ddim yn fater o fethiant byr neu wall o ran y diffynyddion," meddai'r barnwr.
"Roedd yn gyfnod hir a pharhaus o esgeulustod troseddol. Roedd digon o amser i gael help i Kaylea ac i wneud pethau'n iawn i Kaylea."
Fodd bynnag, roedd y barnwr yn derbyn nad oedd y rhieni wedi bod yn fwriadol greulon.
Clywodd y llys fod Kaylea wedi cael ei disgrifio cyn y cyfnod clo ym Mawrth 2020 fel merch "hynod annibynnol a siaradus".
Ond wrth i'w phwysau gynyddu, fe aeth yn fwy dibynnol ar gadair olwyn a daeth yn fwy bregus.
Wrth i'w chyflwr waethygu fe ddechreuodd y teulu wario mwy a mwy ar brydau tecawê.
Roedd cyfrifon banc yn dangos i'r teulu wario dros £1,000 ar brydau o'r fath yn nhri mis olaf bywyd eu merch.
Cyn y dedfrydu ddydd Mercher, dywedodd yr erlynydd Caroline Rees KC fod Kaylea wedi marw "oherwydd bod ei rheini wedi methu yn eu dyletswydd o ofal".
Ni wnaeth yr un o'r ddau riant ddangos unrhyw emosiwn wrth i Ms Rees ailadrodd y dystiolaeth o esgeulustod yn eu herbyn.
Roedd y ddedfryd yn cael ei ddarlledu'n fyw o'r llys - y tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn unrhyw achos o Lys y Goron yng Nghymru.
'Achos trawmatig ac anodd'
Wrth ymateb i'r ddedfryd dywedodd Dean Quick o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae hwn yn achos brawychus o dorri ymddiriedaeth, lle mae'r rhieni wedi methu â darparu'r gofal cywir ar gyfer eu merch anabl fel bod hyn wedi arwain at ei marwolaeth.
"Ni ddylai'r un plentyn orfod dioddef y math yma o amodau byw na chwaith y lefel o ddioddefaint ddigwyddodd i Kaylea.
"Mae'r lefel uchel o esgeulustod yn yr achos yma ymhlith y mwyaf eithafol sydd wedi ei weld gan Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru."
Mewn datganiad byr, dywedodd teulu Kaylea Titford eu bod yn "drist iawn" am ei marwolaeth.
"Er ein bod ni'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth rydyn ni wedi ei dderbyn, rydyn ni nawr yn gofyn am breifatrwydd i alaru ein colled," meddai'r teulu.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Heddlu Dyfed Powys, Jon Rees fod yr ymchwiliad wedi bod yn un "trawmatig ac anodd" i swyddogion.
"Bydd effaith beth gafodd ei weld a'i brofi yn aros gyda'r swyddogion a staff ambiwlans aeth yno am hir iawn," meddai.
"I feddwl bod Kaylea wedi gallu mynd i'r ysgol a chymryd rhan mewn chwaraeon fisoedd yn unig cyn ei marwolaeth, mae'n dorcalonnus.
"Er i ni wneud popeth i sicrhau ein bod ni'n cael cyfiawnder i Kaylea, bydd dim yn lleihau'r loes o golli merch yn ei harddegau gafodd ei gadael i lawr mor wael gan y bobl ddylai fod wedi bod yn edrych ar ei hôl."
Dywedodd llefarydd ar ran elusen yr NSPCC fod yr achos yn un "hynod o drallodus", gan ychwanegu fod angen i'r ymchwiliad i'r achos fod yn un trylwyr i weld a allai mwy fod wedi'i wneud i ddiogelu Kaylea.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Powys nad oedd modd gwneud unrhyw sylw tan yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023