Llygod mawr 'maint cathod' ar glogwyni Dinbych-y-pysgod

Mae pryder fod llygod mawr "maint cathod" yn erydu clogwyni yn ardal Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.

Dywed trigolion fod problem llygod mawr y dref wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf, gyda rhai yn galw am wneud mwy i'w hatal.

Cafodd y fideo hwn ei ffilmio gan Joe Thomas, yn dangos rhai o'r creaduriaid o gwmpas y clogwyni.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â'r broblem, a bod timau arbenigol yn gweithio i gael mynediad at ochr y clogwyn.