Llygod mawr enfawr yn 'erydu clogwyni' Dinbych-y-pysgod
- Cyhoeddwyd
Mae pryder fod llygod mawr "maint cathod" yn erydu clogwyni yn ardal Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.
Mae fideo o'r llygod mawr yn eu dangos yn rhedeg o amgylch y creigiau o dwll i dwll wrth i'r tonnau daro'r creigiau islaw.
Dywed trigolion fod problem llygod mawr y dref wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf, gyda rhai yn galw am wneud mwy i'w hatal.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â'r broblem, a bod timau arbenigol yn gweithio i gael mynediad at ochr y clogwyn.
Dywedodd Michael Lindsay, perchennog Dennis Cafe gerllaw, fod llygod mawr wastad wedi bod yn broblem yn yr ardal.
"Rydw i wedi rhedeg y caffi 'ma ers dros 30 mlynedd, ac mae wastad wedi bod yn broblem," meddai.
"Roedd 'na arfer bod rhywun gyda rôl benodol i ddelio gyda'r llygod mawr.
"Ry'n ni fwy na thebyg yn gweld llygoden fawr o leiaf unwaith yr wythnos yn rhedeg o amgylch y strydoedd."
Dywedodd Roger Miles, capten cwch yn Ninbych-y-pysgod, ei fod yn pryderu fod y broblem wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf.
"'Dych chi'n gweld rhannau o'r clogwyn sydd wedi erydu, ac mae'r llygod mawr maint cathod weithiau," meddai.
"Mae angen i'r awdurdod lleol gymryd cyfrifoldeb a mynd i'r afael â'r peth.
"Mae wedi bod yn mynd ymlaen ers amser heb unrhyw beth yn digwydd, ac mae angen gwneud rhywbeth."
Dywedodd Clive Dobbins, sy'n byw yn y dref, y cafodd lygoden fawr yn ei fflat ychydig fisoedd yn ôl.
"Ro'n i yn y lolfa, ac yn sydyn dyma'r peth 'ma'n rhedeg a tharo fi ar fy nghoes," meddai.
"Mae nifer o bobl wedi dweud wrtha i eu bod wedi gweld clystyrau ohonyn nhw.
"Ond mewn 10 mlynedd dim ond un rydw i wedi'i weld, oni bai am yr un yn fy fflat."
Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn ymwybodol o'r problemau a'r angen i osod mwy o drapiau, a'u bod yn gweithio i fynd i'r afael â phryderon pobl.
"Ry'n ni'n defnyddio staff arbenigol i gael mynediad at ochr y clogwyn, ac fe allai hyn ein galluogi i ni gael mynediad cyson yn y dyfodol hefyd," meddai llefarydd.
"Yn y cyfamser ry'n ni'n annog pobl yn erbyn bwydo'r adar a gollwng bwyd. Fel man dechrau ry'n ni'n ystyried rhagor o arwyddion er mwyn pwysleisio'r neges yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020