Endometriosis: 'Dwi wedi gwario miloedd ar driniaethau preifat'

Mae Sophie Richards wedi bod yn byw gydag endometriosis am fwy na 10 mlynedd.

Ers ei diagnosis, mae Sophie, 26, wedi cael chwe llawdriniaeth ar gyfer ei chyflwr, yn ogystal â degau o driniaethau ac apwyntiadau.

Mae'n dweud ei bod wedi gwario tua £20,000 ar driniaethau preifat oherwydd rhestrau aros hir ar y gwasanaeth iechyd.

Mae endometriosis yn gyflwr hir dymor gyda chleifion yn profi poenau cronig all gael effaith sylweddol ar eu bywyd bob dydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n blaenoriaethu triniaethau o safon uchel i bobl sy'n byw gydag endometriosis.

Ychwanegon nhw fod cyllid ychwanegol wedi ei roi er mwyn talu am nyrsys arbenigol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Darllenwch y stori'n llawn: Rhestrau aros hir: Gwario £20,000 ar driniaethau preifat